Archwiliad

Rydym yn cynnal ymchwil i archwilio rhwystrau ac anawsterau wrth gynnal ymchwil a threialon yng nghymunedau gwledig Gogledd Cymru. Er mwyn cyflawni’r nod hwn rydym yn gofyn i staff ymchwil yng Ngogledd Cymru gwblhau arolwg sy’n gofyn am eu profiadau a chanfyddiadau o gynnal ymchwil a threialon mewn cymunedau gwledig.

Bydd y canlyniadau yn helpu i arwain gwaith yn y dyfodol er mwyn mynd i’r afael â rhwystrau rhag cynnal ymchwil a threialon mewn cymunedau gwledig. Bydd hyn o gymorth i hwyluso gwaith ymchwil yng Ngogledd Cymru, ac o fudd yn ei dro i’r gymuned o ymchwilwyr a’r cyhoedd os gellir cynnal mwy o ymchwil mewn cymunedau gwledig.

Gellir cwblhau’r arolwg yn Gymraeg neu Saesneg.