LLAIS – Cefnogi Isadeiledd Ymwybyddiaeth Iaith

Mae LLAIS wedi ei sefydlu o fewn NWORTH, sydd yn rhan o Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor (BIHMR). Mae’n darparu arweiniad strategol i’r Gwasanaeth Cynllunio a Chynnal Ymchwil (Research Design and Conduct Service, RDCS) i hwyluso cymryd rhan mewn treialon trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae hyn yn galluogi ymchwilwyr i gwrdd â gofynion rheoleiddiol a llywodraethol y Gymru ddwyieithog ddatganoledig, heb gyfaddawdu trylwyredd gwyddonol. Mae LLAIS yn rhoi cyngor amserol i ymchwilwyr ar ymgorffori ymwybyddiaeth iaith yng nghamau allweddol y broses ymchwil, gan gynnwys cynllunio astudiaeth, samplu, recriwtio, cydsynio, casglu data, gweinyddu mesurau iechyd, dadansoddi data, adroddiadau a lledaenu gwybodaeth.

Pam ystyried ymwybyddiaeth am yr iaith Gymraeg mewn ymchwil?

Mae tystiolaeth gynyddol yn awgrymu bod ymchwil sy’n rhoi sylw i iaith a diwylliant yn gwella trylwyredd yr astudiaeth. Mae cynnig cyfleon i gymryd rhan mewn ymchwil mewn eu iaith o ddewis yn sicrhau tegwch ac yn sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn rhannu eu llais. Felly mae cyfathrebu ag unigolion sy’n cymryd rhan mewn ymchwil mewn iaith sy’n ystyrlon iddynt hwy yn allweddol i ymarfer ymchwil clinigol da.

Yng nghyd-destun y Gymru ddwyieithog ddatganoledig, mae’r Gymraeg yn greiddiol i’w hunaniaeth genedlaethol, ei fframweithiau deddfwriaethol a’i chynlluniau strategol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.

Am hynny, mae disgwyl i ymchwilwyr ledled Cymru ddarparu ‘cynnig rhagweithiol’ o ran y Gymraeg i alluogi siaradwyr Cymraeg i gymryd rhan mewn ymchwil a chael llais wrth lywio polisi ac ymarfer.

Mae cynnal hawliau ieithyddol, diogelwch a lles y rhai sy’n cymryd rhan mewn ymchwil yn ymgorffori egwyddorion arfer moesegol cadarn. Maent hefyd yn ychwanegu at drylwyredd ymchwil traws-ddiwylliannol trwy wella’r prosesau recriwtio a dal gafael ar grwpiau anodd eu cyrraedd. Mae hyn yn cynhyrchu canlyniadau sydd yn gwella dilysrwydd yr ymchwil o ran sefyllfaoedd ieithyddol amrywiol.