Neidio i: Cynnwys y tudalen Neidio i: Dewislen yr adran

Cyd-destun deddfwriaethol a pholisi

Yn 1993, sefydlodd Deddf yr Iaith Gymraeg yr egwyddor y dylai’r Gymraeg a’r Saesneg gael eu trin ar sail cydraddoldeb wrth gynnal busnes cyhoeddus yng Nghymru; a sefydlwyd Bwrdd yr Iaith Gymraeg i wneud darpariaeth ar gyfer llunio cynlluniau iaith Cymraeg. Sefydlodd Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 – fframwaith cyfreithiol newydd sy’n cadarnhau statws swyddogol y Gymraeg a gosod dyletswydd ar sefydliadau i gydymffurfio â safonau i hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg, yn unol â dwy egwyddor sylfaenol, h.y.

• Yng Nghymru, ni ddylai’r Gymraeg gael ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.
• Dylai pobl yng Nghymru allu byw eu bywydau trwy gyfrwng y Gymraeg pe baent yn dewis gwneud hynny.

Mae hyn yn golygu y gall siaradwyr Cymraeg ddisgwyl cael gwybodaeth am ymchwil ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg a chael cynnig cyfleoedd i gymryd rhan mewn ymchwil yn un o’r ddwy iaith, yn unol â’u hanghenion neu eu dewis penodol.

Mae Strategaeth Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru, ‘Iaith Fyw: Iaith Byw’ yn pwysleisio bod ‘cryfhau gwasanaethau Cymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn cael ei ystyried yn flaenoriaeth oherwydd bod iaith yn y cyd-destun hwn yn fwy i lawer o bobl na mater o ddewis yn unig – mae’n fater o angen’ (Llywodraeth Cymru, 2012, 42).

Ond mae’r egwyddor o’r ‘cynnig gweithredol’ sy’n amlwg yn strategaeth ‘Mwy na geiriau’ ar gyfer gwasanaethau Cymraeg ym maes iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol yn galw am agwedd fwy rhagweithiol tuag at ddewis iaith ac angen iaith, gan symud y cyfrifoldeb am sicrhau gwasanaethau addas oddi ar ysgwyddau’r defnyddiwr i’r darparwr (Llywodraeth Cymru 2012, 6.2.2).

Ystyriaethau moesegol

Mae gan unigolion hawl cyfartal i gymryd rhan mewn ymchwil sy’n llywio polisi ac ymarfer ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Ond mae tystiolaeth ar gael sy’n awgrymu bod poblogaethau lleiafrifol yn cael eu tangynrychioli ym maes ymchwil iechyd. Gall hyn leihau dilysrwydd allanol y canfyddiadau yn ogystal â gwrthod mynediad at ofal a thriniaethau priodol.

Mae’r Fframwaith Llywodraethu Ymchwil yng Nghymru (Llywodraeth Cynulliad Cymru, 2009) yn hyrwyddo dull cynhwysol o ymdrin ag ymchwil er mwyn gwella’i ansawdd moesegol a gwyddonol. Wrth gefnogi mynediad at wasanaethau i siaradwyr Cymraeg, mae’n pwysleisio pwysigrwydd cynnig gwybodaeth am ymchwil ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg, ac yn cydnabod yr un pryd hawliau’r unigolyn i gymryd rhan yn y naill iaith neu’r llall, yn unol â’u hangen neu eu dewis.

Site footer