Buddsoddiad gwerth dros 3 miliwn mewn unedau ymchwil iechyd ym Mhrifysgol Bangor

Caiff gwerth dros £3 miliwn ei fuddsoddi mewn ymchwil i ofal iechyd integredig ym Mhrifysgol Bangor dros y tair blynedd nesaf.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhodd o gyllid gwerth £2.3 miliwn i ariannu dau grant i'r brifysgol, a bydd y brifysgol ei hun yn buddsoddi arian cyfatebol yn un ohonynt.

Bydd y cyllid yn cyfrannu at Sefydliad Hap-dreialon Iechyd Gogledd Cymru (NWORTH) a Gwasanaeth Cymorth Economeg Iechyd Cymru, sy'n rhan o'r Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME) ym Mhrifysgol Bangor.

Bydd y cyllid, trwy  gronfa Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn fodd i’r unedau ddenu mwy o dreialon mawr o ansawdd uchel, a gyllidir yn allanol, i helpu'r unedau i dyfu, buddsoddi mewn arbenigedd a darparu tystiolaeth ymchwil o dreialon o fewn amserlenni clir.

Mae Canolfan Cymorth Economeg Iechyd Cymru yn cynorthwyo'r unedau treialon gydag arbenigedd economeg iechyd, sy'n elfen hollbwysig wrth wneud cais am gyllid gan gyllidwyr treialon clinigol mawr yn y DU. 

Meddai’r Athro Nicky Callow, Deon Coleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad y brifysgol:

“Rydym yn falch dros ben bod Llywodraeth Cymru wedi dewis ariannu cyfranwyr yr Ysgol Gwyddorau Iechyd at Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.  Mae gan Brifysgol Bangor enw rhagorol am ei gwaith ymchwil ym maes iechyd, ac rydym yn falch o gynnal ymchwil sy'n cyfrannu at iechyd a gofal yng Nghymru a thu hwnt.”

Mae  Hap-dreialon Iechyd Gogledd Cymru (NWORTH) yn un o dair uned dreialon clinigol yng Nghymru sydd yn gofrestredig gyda'r "UK Clinical Research Collaboration" (UKRCR).  Mae treialon clinigol yn hanfodol i ddatblygu ymarfer clinigol a gofal iechyd effeithlon ar sail tystiolaeth.  Mae NWORTH yn darparu cefnogaeth fethodolegol ac ystadegol, isadeiledd TG a sicrwydd o ansawdd, wrth gynnal ei hymchwil ei hun mewn ystod eang o feysydd clinigol.

Meddai cyfarwyddwr NWORTH, yr Athro Paul Brocklehurst:

“Mae  ein staff yn gweithio gyda chlinigwyr ymchwil o nifer o gyrff ledled y DU er mwyn sicrhau bod eu gwaith ymchwil clinigol yn drylwyr ac yn gallu gwrthsefyll archwiliad. Mae’r gwaith yn cynnwys unrhyw beth, gan gynnwys cydweithio ag ymchwilwyr ynglŷn â sut i sefydlu projectau ymchwil cymhleth,  rheoli’r broses ymchwil a gwerthuso’r wybodaeth a gynhyrchir gan dreialon. Rydym hefyd yn gwneud ein hymchwil ein hunain, ac mae ein diddordebau ymchwil yn cynnwys amrywiaeth o bynciau megis gwerthuso effeithiolrwydd gwasanaethau gofal dementia, adferiad a chyflyrau cyhyrysgerbydol. Mae'r arian gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru yn cael ei gyfateb gan Brifysgol Bangor ac mae'n ein galluogi i barhau â'n gwaith hollbwysig am dair blynedd arall. Rydym hefyd yn bwriadu ymestyn ein portffolio i gynnwys meysydd megis iechyd cyhoeddus a sicrhau bod llais cleifion yn ganolog i'r  broses ymchwil ac i bopeth rydym yn ei wneud.”

Dywedodd yr Athro Rhiannon Tudor Edwards, Cyd-gyfarwyddwr y Ganolfan Economeg Iechyd a Gwerthuso Meddyginiaethau (CHEME), Prifysgol Bangor, "fel cyfarwyddwr y Gwasanaeth Cymorth Economeg Iechyd Cymru (WHESS), sy'n darparu arbenigedd ym maes economeg iechyd i ymchwil feddygol a gwasanaethau iechyd cymunedol ledled Cymru, rwy'n falch dros ben ein bod wedi ennill y grantiau hyn.  Cyllidir WHESS gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (HCRW), ac mae'n wasanaeth ar y cyd rhwng economegwyr iechyd ym Mhrifysgol Bangor a Phrifysgol Abertawe.  Mae economeg iechyd yn ymwneud â sut rydym yn defnyddio adnoddau iechyd prin i fodloni ein hanghenion, ac yn fwyfwy mae hyn hefyd yn ymwneud ag anghenion gofal cymdeithasol yn y gymdeithas.   Mae economeg iechyd yn rhan annatod o ymchwil meddygol, iechyd a gofal ledled Cymru.  Rydym yn cyfrannu at ymchwil o safon ryngwladol sydd yn deillio o Gymru, yn cefnogi pobl gyda syniadau ymchwil ym myrddau iechyd y GIG ac awdurdodau lleol a allai arwain at wella effeithlonrwydd neu gost-effeithiolrwydd gofal cleifion ac rydym yn meithrin ac yn mentora’r genhedlaeth nesaf o economegwyr iechyd yng Nghymru.  Bydd y £1.2 miliwn ar draws Cymru yn ein galluogi i ddarparu cefnogaeth economeg iechyd ar lefel cenedlaethol am y tair blynedd nesaf, gan gydweithio’n agos â’r tair uned dreialon clinigol ac fel rhan o’r Gwasanaeth Cynllunio a Chynnal Ymchwil.” 

Mae'r cyllid hwn yn ychwanegu at y cyllid y mae'r brifysgol eisoes yn ei gael gan Lywodraeth Cymru am gyfraniad ei hymchwil at Uned Ymchwil Arennol Cymru, Canolfan Ymchwil Canser Cymru, Canolfan Cymru ar gyfer Ymchwil Gofal Sylfaenol a Gofal Brys a'r Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia ac wrth gyfrannu hefyd at Uned BRAIN Cymru a'r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Iechyd Meddwl yng Nghaerdydd, mae Prifysgol Bangor yn cyfrannu'n sylweddol at ymchwil iechyd yng Nghymru.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Medi 2015