Holl Newyddion A–Y

Adroddiad Blynyddol NWORTH 2016-2017

Cliciwch yma i weld Adroddiad Blynyddol NWORTH 2016-2017

Dyddiad cyhoeddi: 20 Hydref 2017

Asesu gwerth grwpiau cefnogi dementia

New ageing and dementia research at Bangor University will soon be underway, with a team from the Bangor Institute of Health and Medical Research in the School of Health Sciences being the only university in Wales to be awarded funding as part of the ESRC-NIHR Dementia Research Initiative 2018 . This programme of work, led by partners at University College London, centres around people living with rare dementias, and will involve the first major study of the value of support groups for people living with or caring for someone with a rare form of dementia.

Dyddiad cyhoeddi: 10 Ionawr 2019

Buddsoddiad gwerth dros 3 miliwn mewn unedau ymchwil iechyd ym Mhrifysgol Bangor

Caiff gwerth dros £3 miliwn ei fuddsoddi mewn ymchwil i ofal iechyd integredig ym Mhrifysgol Bangor dros y tair blynedd nesaf. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhodd o gyllid gwerth £2.3 miliwn i ariannu dau grant i'r brifysgol, a bydd y brifysgol ei hun yn buddsoddi arian cyfatebol yn un ohonynt.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Medi 2015

Cydnabyddiaeth genedlaethol i NWORTH, Uned Dreialon Glinigol Bangor

Mae Prifysgol Bangor wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol am gynnal treialon astudiaethau clinigol o’r ansawdd uchaf. Mae Cymdeithas Hap-dreialon Iechyd (a Gofal Cymdeithasol) Gogledd Cymru (NWORTH) , sef yr uned dreialon yn y Sefydliad Ymchwil Gofal Meddygol a Chymdeithasol (IMSCaR) yng Ngholeg y Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad (CoHaBS) wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol gan Gydweithrediad Ymchwil Clinigol y DU (UKCRC)fel uned dreialon glinigol wedi ei chofrestru’n llawn am ragoriaeth ymchwil wrth gynnal treialon clinigol aml ganolfan ac astudiaethau eraill sydd wedi eu cynllunio'n dda.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Medi 2012

Cynnwys Cleifion a'r Cyhoedd: Seminar ar-lein

Cynhaliodd Uned Treialon Clinigol NWORTH Seminar am gyfranogiad ‘Cleifion a'r Cyhoedd’ mewn seminar ar-lein ar gyfer myfyrwyr o'r Ysgol Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Bangor ym mis Tachwedd.

Dyddiad cyhoeddi: 7 Rhagfyr 2020

Dweud eich dweud!

Rhagor i wybodaeth yma .

Dyddiad cyhoeddi: 30 Mai 2018

Gwefan MI-CYM nawr ar-lein!

Mae tim LLAIS yn falch o adael i chi wybod bod gwefan MI-CYM nawr ar-lein.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Hydref 2014

Logo newydd i NWORTH wrth i'r uned treialon clinigol barhau i dyfu

Sefydliad Hap-dreialon Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gogledd Cymru (NWORTH) yw'r Uned Treialon Clinigol yng Ngogledd Cymru sydd wedi'i chofrestru ag UKCRC (#23).

Dyddiad cyhoeddi: 12 Medi 2018

Pobl sydd â dementia yn elwa o therapi cysylltiedig â nod

Mae naw deg o bobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr o bob cwr o ogledd Cymru, wedi cyfrannu at ganfyddiadau ymchwil newydd sydd wedi dangos bod therapi adferiad gwybyddol personol yn gallu helpu pobl â dementia cynnar i wella'n sylweddol eu gallu i gymryd rhan mewn gweithgareddau a thasgau bob dydd pwysig. Roedd y treial ar raddfa fawr, a gyflwynwyd yng Nghynhadledd Ryngwladol Cymdeithas Alzheimer (AAIC) 2017 ddydd Mawrth, 18 Gorffennaf, wedi canfod bod adferiad gwybyddol yn arwain at bobl yn gweld cynnydd boddhaol mewn meysydd fel y gallant barhau i weithredu a chadw eu hannibyniaeth.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2017

Prifysgol Bangor yn derbyn cyllid i adeiladu seilwaith ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol 2018-2020

Mae Grwpiau Ymchwil yn Sefydliad Ymchwil Iechyd a Meddygol Bangor (BIHMR) wedi derbyn symiau sylweddol o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 18 Rhagfyr 2017

Prifysgol Bangor yn gwneud gwahaniaeth mewn gofal iechyd yn yr iaith Gymraeg

Mae gwaith arloesol i ymestyn a gwella'r defnydd o'r iaith Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol wedi cael ei gydnabod gyda Phrifysgol Bangor yn ennill gwobrau Gwireddu'r Geiriau mewn dau gategori. Cyflwynwyd y gwobrau yng Nghynhadledd a Gwobrau'r Iaith Gymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol. Mae'r Gwobrau yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd yr iaith Gymraeg yn y sectorau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn arbennig wrth ddelio â chleifion, eu teuluoedd a'r cyhoedd.

Dyddiad cyhoeddi: 8 Gorffennaf 2015

UKCRC yn cydnabod arbenigedd treialon clinigol Bangor

Yr wythnos hon cafodd Sefydliad Hapdreialon Iechyd Gogledd Cymru (Uned Dreialon Clinigol NWORTH) newyddion da pellach (yr wythnos ddiwethaf cytunodd Llywodraeth Cymru i ymestyn eu cyllid) gan eu bod wedi cael eu hail-achredu'n llwyddiannus am 5 mlynedd arall yn dilyn Proses Adolygu Cofrestriad 2017 a arweiniwyd gan Bwyllgor Adolygu Rhyngwladol o arbenigwyr.

Dyddiad cyhoeddi: 23 Awst 2017

Uned Dreialon Clinigol NWORTH yn croesawu cyhoeddiad y Llywodraeth ei bod yn buddsoddi mwy o Arian mewn Ymchwil ar Ddementia

Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar gan David Cameron, mae NWORTH , Uned Treialon Clinigol Prifysgol Bangor, yn croesawu'r newyddion bod arian y DU ar gyfer ymchwil Dementia ar fin dyblu i £ 66m erbyn 2015.

Dyddiad cyhoeddi: 27 Mawrth 2012

Ymchwil ym Mhrifysgol Bangor yn ymddangos ar HORIZON

Bydd project ymchwil sy’n cael ei gynnal ym Mhrifysgol Bangor, gyda chyfraniad hanfodol aelodau cymunedau ar draws gogledd Cymru, yn derbyn sylw rhifyn nesaf prif gyfres ddogfen y BBC, Horizon ( 11 Mai 2016 BBC 2 8.00 ).

Dyddiad cyhoeddi: 5 Mai 2016

Yr Athro Ian T. Russell 1944-2022

Bu farw ein mentor, cydweithiwr a chyfaill yr Athro Ian Russell yn 78 oed. Roedd yn un o ymchwilwyr mwyaf blaenllaw ei genhedlaeth a hyfforddodd nifer o brif ymchwilwyr iechyd byd-eang ein cyfnod.

Dyddiad cyhoeddi: 13 Hydref 2022