Ymchwil ym Mhrifysgol Bangor yn ymddangos ar HORIZON

Bydd project ymchwil sy’n cael ei gynnal ym Mhrifysgol Bangor, gyda chyfraniad hanfodol aelodau cymunedau ar draws gogledd Cymru, yn derbyn sylw rhifyn nesaf prif gyfres ddogfen y BBC, Horizon (11 Mai 2016 BBC 2 8.00).

Mae Horizon, prif raglen gwyddoniaeth BBC 2, yn ymchwilio cyfnod newydd ym maes ymchwil i glefyd Alzheimer's sydd yn dod â gobaith i filoedd o bobol o amgylch y byd sy’n cael eu heffeithio â’r cyflwr. Yn ogystal ag edrych ar ddatblygiadau meddygol wrth adnabod a thrin cleifion gyda dementia, mae’r rhaglen hefyd yn edrych ar y newidiadau mewn arferion byw a all atal datblygiad y clefyd.

Bu gwneuthurwyr y rhaglen ym Mangor i ffilmio astudiaeth-achos o hap-dreial sydd yn cael ei chynnal ledled y DU er mwyn cynorthwyo'r rhai hynny sydd yng nghyfnod cynnar dementia i ddatblygu strategaethau er mwyn cyflawni tasgau dydd i ddydd. Drwy hyn, daw budd deublyg, sef hwyluso’u bywydau, a hefyd ailgynnau'r rhannau o’r ymennydd sydd yn ymwneud â chynllunio a threfnu.

Tra yn y gogledd bu’r rhaglen yn ffilmio therapydd y project, Sue Evans,  sydd yn cael ei chyflogi i weithio ar y broject o fewn y GIG gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, yn gweithio gydag un o gyfranogwyr y project ar yr amcanion yr oedd ef ei hun wedi eu gosod ar ei gyfer.

Mae’r project a arweinir gan yr Athro Linda Clare (bellach ym Mhrifysgol Exeter, gynt o Ysgol Seicoleg, Prifysgol Bangor), hefyd yn cynnwys arbenigwyr o Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia Prifysgol Bangor ac NWORTH- Uned Treialon Clinigol Bangor, yn ogystal â’r unigolion ledled y rhanbarth sy’n cymryd rhan ac sydd yn y cyfnod cynnar o ddementia.

Bu i’r rhai a fu’n cyfrannu adnabod amrediad eang o nodau i weithio tuag atynt, o ddefnyddio ffôn symudol wrth fod allan yn siopa, at ddod o hyd i eitemau o amgylch y cartref. Wrth osod nodau oedd yn golygu rhywbeth iddynt, roeddynt yn arddangos sawl cymhelliad, gan gynnwys yr awydd i fod yn fwy annibynnol, lleihau straen, a rhoi sicrwydd i eraill.  Mae’r astudiaeth, a gyllidir gan y National Institute for Health Research, yn parhau, gyda disgwyl canlyniadau’r astudiaeth ymhen blwyddyn. Dangosodd astudiaeth beilot yng Ngogledd Cymru, a gyllidwyd gan Gymdeithas Alzheimer’s, bod nifer o bobol efo dementia cynnar yn medru cyflawni’r nodau gan ddefnyddio’r ymdriniaeth yma, a elwir  yn ‘adferiad gwybyddol’.

Mae’r Unedau sy’n cyfrannu at yr ymchwil hefyd yn cyfrannu at Sefydliad Bangor dros Ymchwil Iechyd a Meddygol â lansiwyd yn ddiweddar yng Ngholeg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad y Brifysgol.

Dyddiad cyhoeddi: 5 Mai 2016