Beth allwn ni ei gynnig?

Mae Sefydliad Hapdreialon Iechyd Gogledd Cymru (NWORTH) yn arbenigo mewn cynllunio, cynnal a dadansoddi treialon clinigol ac mae gan y Ganolfan arbenigedd arbennig yn gwneud gwerthusiadau o ymyriadau cymhleth.

Gall yr uned ddarparu cymorth ymarferol a chyngor pwrpasol mewn partneriaeth a thrwy gydweithio gyda phob agwedd ar eich astudiaeth fel cynllunio, cynnal, dadansoddi ac adrodd a lledaenu. Ym mhob cam o ddatblygu a chynnal treialon clinigol, mae'r uned yn darparu arbenigedd ym mhob maes, gan sicrhau y cynhelir y treialon i'r safon uchaf.

Gwyliwch y fideos isod i glywed mwy am y gwasanaethau a ddarperir gan NWORTH.

(Sylwer: cyflwynir y fideos trwy gyfrwng y Saesneg.)

Sut allwn ni helpu?

Caiff pob cais i gydweithio eu trafod a'u hasesu gan Dîm Gweithredol Craidd NWORTH.  Bydd yr asesiad yn pennu lefel cyfranogiad NWORTH os derbynnir cynnig.  Gall cyfraniad NWORTH amrywio o gysylltiad llawn yr Uned Treialon Clinigol  lle caiff astudiaeth ei rheoli'n llawn gan NWORTH neu gall NWORTH fod yn gyfrifol am elfennau penodol (e.e. ystadegau, rheoli data etc....).

Mae asesu cynigion astudio yn seiliedig ar nifer o ffactorau yn cynnwys ansawdd y cynnig ymchwil, a yw'n ddichonadwy ac a ellir ei gyflawni, eglurder o ran swyddogaeth a chylch gorchwyl, cyllido a chyllid a gallu NWORTH i'w gyflawni o fewn yr amserlen arfaethedig.

Mae ein holl astudiaethau'n cael eu llywodraethu gan ein cyfres o Weithdrefnau Gweithredu Safonol a ddatblygwyd yn benodol i reoli pob agwedd ar ein hastudiaethau clinigol i'r safonau uchaf. Mae'r rhain wedi'u hysgrifennu yn unol â gofynion rheoliadol cyfredol ac egwyddorion Ymarfer Clinigol Da,  Fframwaith Llywodraethu Ymchwil, Cyfarwyddeb Treialon Clinigol yr UE a chanllawiau eraill (canllawiau/ polisïau/ rheolaeth glinigol y GIG).

Cynghorir cydweithwyr posibl i gysylltu â NWORTH mor gynnar â phosib yn y broses ac o leiaf 6-8 wythnos cyn dyddiad cau cael cyllid. Os hoffech weithio gyda'r Uned Treialon i ddatblygu eich syniadau ymchwil ymhellach, rydym yn eich annog i lenwi a chyflwyno ein Ffurflen Gais Cydweithio.

I gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y gall NWORTH ei gynnig, cliciwch yma