PARC-Bangor

Yn ystod COVID-19 - Mae NWORTH yn parhau i fod yn gwbl weithredol gyda ein gwaith yn cael ei wneud o bell. Mae pob aelod o staff yn gweithio o gartref ar hyn o bryd, felly cysylltwch â ni drwy e-bost, yn y lle cyntaf.

Oes gennych chi ddiddordeb mewn helpu i ddatblygu ymchwil gyda Uned Dreialon Gogledd Cymru (NWORTH)?

Os ydych, ystyriwch ymuno â chronfa ddata PARC-Bangor. Mae PARC-Bangor yn gronfa ddata o bobl sydd â diddordeb mewn datblygu prosiectau ymchwil.

Mae bod yn aelod o PARC yn golygu y gallwch chi:

  • Ddysgu am a dylanwadu ar ymchwil iechyd yn eich ardal chi
  • Defnyddio eich profiad fel claf, defnyddiwr gwasanaeth, gofalwr neu aelod o'r teulu i helpu eraill
  • Dylanwadu ar ddyluniad yr astudiaeth i wneud ceisiadau am arian yn fwy llwyddiannus
  • Trafod y gwaith gyda thimau ymchwil trwy e-bost, yn bersonol, neu dros y ffôn
  • Cael mynediad i hyfforddiant am ddim am ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol
  • Cael costau teithio os bydd angen i chi fynychu cyfarfodydd yn bersonol.

Cyswllt

Ffôn: 01248 388095

Cyfeiriad:
Unded dreialon clinigol NWORTH Y Wern, Safle’r Normal
Ffordd Caergybi, Prifysgol Bangor
Bangor, Gwynedd
LL57 2PZ

Twitter:
@nworth_ctu