Sesiynau cymorth ymchwil
Gall gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn sefydliadau gofal cymdeithasol (megis awdurdodau lleol, elusennau neu’r trydydd sector) neu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BCUHB) neu Fwrdd Iechyd Addysgu Powys gael mynediad i’r gwasanaeth.
Mae’r tîm yn rhoi cyngor ar bob agwedd ar ddatblygu cynigion ymchwil, gan gynnwys:
- Mireinio syniadau a chwestiynau ymchwil
- Sut i gynnal chwiliadau llenyddiaeth ac ymgymryd ag adolygiadau systematig
- Cynllunio ymchwil
- Dewis methodoleg ansoddol neu meintiol
- Detholiad o fesurau, gan gynnwys mesurau sydd wedi cael eu cwblhau gan gleifion (PROMs) ac offer sy’n asesu ansawdd y ddarpariaeth gofal cymdeithasol o safbwynt derbynwyr
- Cynnwys dadansoddiad economeg iechyd
- Sicrhau bod pobl yn cael cymryd rhan yn eu dewis iaith.
- Adeiladu tîm ymchwil cryf
- Cynnwys defnyddwyr gwasanaeth ac aelodau o’r cyhoedd ym mhob rhan o’r broses ymchwil.
- Cyfeirio at ffynonellau cymorth eraill a phartneriaid ymchwil posibl
- Canfod yr adnoddau sydd eu hangen
- Nodi cyfleoedd cyllido priodol
Mynychu sesiwn cymorth ymchwil galw heibio:
Cynhelir sesiynau cymorth ymchwil mewn lleoliadau hygyrch ar draws Gogledd a Chanolbarth Cymru ac, os gofynnir amdanynt (a pan fo galw digonol) gellir trefnu sesiwn ychwanegol mewn lleoliadau cyfleus eraill. Mae’r clinigau’n darparu cyngor a chefnogaeth ar ddatblygu cynigion ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.
Sesiynau cymorth ymchwil galw heibio i ddod:
Dyddiad | Amser | Lleoliad | Cofrestrwch cyn |
---|---|---|---|
Ysbyty Bronllys | |||
13 Mawrth 2020 | 1:00–3:00pm | Edward Ward, Block 14 | 6 Mawrth 2020 |
14 Hydref 2020 | 1:00–3:00pm | Ystafell hyfforddiant TG | 7 Hydref 2020 |
17 Mawrth 2021 | 1:00-3:00pm | Ystafell hyfforddiant TG | 10 Mawrth 2021 |
Ysbyty Gwynedd | |||
6 Mai 2020 | 5:00–7:00pm | Swyddfa Ymchwil a Datblygu | 29 Ebrill 2020 |
11 Tachwedd 2020 | 5:00–7:00pm | Swyddfa Ymchwil a Datblygu | 4 Tachwedd 2020 |
Ysbyty Glan Clwyd | |||
10 Mehefin 2020 | 10:00-12:00pm | Ystafell Seminar | 3 Mehefin 2020 |
3 Chwefror 2021 | 10:00-12:00pm | I'w gardarnhau | 27 Ionawr 2021 |
Ysbyty Maelor Wrecsam | |||
15 Ebrill 2020 | 12:30-2:30pm | Ystafell bwrdd 1 | 8 Ebrill 2020 |
30 Medi 2020 | 12:00–2:00pm | Ystafell bwrdd 1 | 23 Medi 2020 |
Oherwydd y sefyllfa COVID-19 persennol, sy'n newid yn gyflym, bydd sesiynau wyneb yn wyneb yr RDCS sydd wedi eu cynllunio yn cael eu hadolygu ac efallai na fyddant yn bwrw ymlaen. Fodd bynnag, gallwn drefnu sgyrsiau dros y ffôn / Skype yn ôl yr angen.
Os ydych chi’n bwriadu galw heibio, cysylltwch â ni: bydd y sesiynau galw heibio ond yn digwydd pan fydd mynychwyr wedi’u trefnu.
Os na allwch fynychu clinig cymorth ymchwil:
- Llenwch a chyflwynwch y ffurflen cymorth ymchwil hon: fersiwn Saesneg / fersiwn Gymraeg
- Os oes gennych ymholiad cyffredinol, gallwch hefyd e-bostio neu ein ffonio yn uniongyrchol
Manylion cysylltu RCDS NWORTH:
- Ffôn: (01248 383793)
- E-bost: rdcs@bangor.ac.uk