Cwestiynau ac atebion

Pam ddylwn i ystyried ymwybyddiaeth iaith yn fy ymchwil?

Mae tystiolaeth gynyddol i awgrymu bod ymchwil sy’n ymateb i ddiwylliant ac iaith yn cryfhau trylwyredd, cynwysoldeb a thegwch. Felly, mae cyfathrebu ag unigolion sy’n cymryd rhan mewn ymchwil mewn iaith sy’n ystyrlon iddynt hwy yn allweddol i ymarfer ymchwil clinigol da. Yng nghyd-destun Cymru ddwyieithog ddatganoledig, mae’r Gymraeg yn greiddiol i’w hunaniaeth genedlaethol, y fframweithiau deddfwriaethol a’r cynlluniau strategol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Felly mae ymchwilwyr ledled Cymru wedi cael y gwaith o ddarparu ‘cynnig gweithredol’ o wasanaethau Cymraeg i alluogi siaradwyr Cymraeg i gymryd rhan mewn ymchwil a chael llais wrth lywio polisi ac ymarfer. Mae cefnogi hawliau ieithyddol, diogelwch a lles cyfranogwyr ymchwil nid yn unig yn ymgorffori egwyddorion ymarfer moesegol cadarn ond mae hefyd yn cryfhau trylwyredd ymchwil draws-ddiwylliannol trwy wella’r prosesau recriwtio a dal gafael ar grwpiau anodd i’w cyrraedd a chynhyrchu canlyniadau sydd wedi gwella dilysrwydd sefyllfaoedd ieithyddol amrywiol.
Mae tystiolaeth gynyddol yn awgrymu bod ymchwil sy’n rhoi sylw i iaith a diwylliant yn gwella trylwyredd yr astudiaeth. Mae cynnig cyfleon i bobl gymryd rhan mewn ymchwil yn eu dewis iaith yn sicrhau tegwch ac yn galluogi siaradwyr Cymraeg i rannu eu llais. Felly mae cyfathrebu ag unigolion sy’n cymryd rhan mewn ymchwil mewn iaith sy’n ystyrlon iddynt hwy yn allweddol i ymarfer ymchwil clinigol da.

Yng nghyd-destun y Gymru ddwyieithog ddatganoledig, mae’r Gymraeg yn greiddiol i’w hunaniaeth genedlaethol, ei fframweithiau deddfwriaethol a’i chynlluniau strategol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.

[link to section – Cyd-destun deddfwriaethol a pholisi context page below].

Am hynny, mae disgwyl i ymchwilwyr ledled Cymru ddarparu ‘cynnig rhagweithiol’ o ran y Gymraeg i alluogi siaradwyr Cymraeg i gymryd rhan mewn ymchwil a chael llais wrth lywio polisi ac ymarfer.

Mae cynnal hawliau ieithyddol, diogelwch a lles y rhai sy’n cymryd rhan mewn ymchwil yn ymgorffori egwyddorion ymarfer moesegol cadarn. Mae hefyd yn cryfhau trylwyredd ymchwil traws-ddiwylliannol trwy wella’r prosesau recriwtio a dal gafael ar grwpiau anodd i’w cyrraedd. Mae hyn yn cynhyrchu canlyniadau sydd yn gwella dilysrwydd yr ymchwil o ran sefyllfaoedd ieithyddol amrywiol.

Sut y gallaf wella’r ymwybyddiaeth o iaith yn fy ymchwil?

Ceir potensial i wella’r ymwybyddiaeth o iaith ym mhob cam yn y broses ymchwil, e.e. drwy sicrhau dulliau samplu priodol; dulliau mesur manwl gywir; mesurau casglu data effeithiol, cyfieithiadau o safon; a dulliau dadansoddi digonol. Ceir crynodeb o’r dulliau gweithredu hyn yn y siart llif yn Ffigwr 1, tra bo manylion pellach ar gael ym Mhapur Briffio 2 LLAIS: ‘Ymwybyddiaeth o Iaith mewn Rheolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol’.

Pam y dylwn i roi cynnig pendant o ddeunyddiau yn y Gymraeg i gyfranogwyr ymchwil, er mai anaml y maent yn gofyn am wybodaeth yn Gymraeg?

Disgwylir i ymchwilwyr ledled Cymru bwysleisio bod gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg ar gael er mwyn galluogi siaradwyr Cymraeg i gymryd rhan mewn ymchwil a chael llais wrth lywio polisi ac ymarfer.

Mae’n wir nad yw cyfranogwyr ymchwil, at ei gilydd, wedi gofyn am ddeunydd ysgrifenedig yn y Gymraeg yn y gorffennol. Efallai mai’r rhesymau am hyn yw:

  • Mae gofyn am wasanaeth dwyieithog yn galw am sicrwydd a hunanhyder.
  • Gall pobl fod yn bryderus ynghylch y neges a’r ddelwedd y maent yn ei chyfleu drwy ofyn am ddeunydd yn y Gymraeg
  • Efallai ei bod yn well gan siaradwyr Cymraeg ddefnyddio’r Gymraeg wrth sgwrsio a defnyddio’r Saesneg wrth ddarllen dogfennau swyddogol
  • Gall disgwyliadau am wasanaeth Cymraeg fod yn isel.

Wrth i’r defnydd o’r Gymraeg gynyddu yn y sector cyhoeddus ac wrth i bobl ifanc gysylltu’r Gymraeg â sefyllfaoedd swyddogol mwy ffurfiol, mae’r patrymau hyn yn newid ac mae galwadau cynyddol am wasanaethau dwyieithog.

Sut ydw i’n cael fy ngwaith wedi’i gyfieithu?

Ar hyn o bryd bydd arnoch angen gofyn am wasanaeth y cyfieithydd yn eich sefydliad neu gomisiynu cyfieithydd annibynnol. Fodd bynnag mae DSCHR Llywodraeth Cymru yn ystyried ar hyn o bryd sefydlu gwasanaeth cyfieithu Cymraeg ar gyfer ymchwil y GIG yng Nghymru. Nes bydd y gwasanaeth hwn wedi’i sefydlu, bydd angen i chi chwilio am wasanaeth annibynnol. Mae LLAIS yn argymell y dylid defnyddio cyfieithwyr sy’n aelodau llawn o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, sef y gymdeithas broffesiynol i Gymru;Dylai hyn sicrhau’r lefel o sicrhau ansawdd sydd ei angen.

Mae defnyddwyr yn cwyno’n aml bod ffurflenni a dogfennau swyddogol yn llawn o jargon neu dermau anghyfarwydd. Arweiniodd hyn at y Plain English Campaign a Cymraeg Clir yn Gymraeg. Mae’r rhain yn argymell defnyddio brawddegau byrion; osgoi defnyddio’r moddau amhersonol a dibynnol; a nifer o ganllawiau tebyg yn ymwneud ag arddull a chystrawen. Am fanylion pellach am Cymraeg Clir, cliciwch yma.

Mae e-adnodd cyfieithu newydd i gyfieithwyr Cymraeg hefyd ar gael ar-lein yma.

Efallai y bydd gan eich cyfieithydd ddiddordeb hefyd yng nghyfieithiad Cymraeg LLAIS o’r Jargon Buster http://www.invo.org.uk/resource-centre/jargon-buster/ gweler Deall y Jargon

Yn fy mhroject ymchwil pa ddogfennau sydd angen bod mewn fformat dwyieithog (Cymraeg/Saesneg)?

Yn 2013 argymhellodd Academic Health Science Collaboration (AHSC) NISCHR y dylai dogfennau i gyfranogwyr fod ar gael yn ddidrafferth yn Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg, ac nid dim ond drwy ofyn amdanynt yn unig. Argymhellwyd hefyd sefydlu gwasanaeth cyfieithu i Gymru gyfan. Byddai’r gwasanaeth cyfieithu’n cyfieithu dogfennau i gyfranogwyr mewn arddull gyson a hwyluso dull gweithredu trefnus gan gydymffurfio â Mesur yr Iaith Gymraeg (2011). Nid yw’r gwasanaeth cyfieithu hwn yn gweithredu eto, ond argymhellir y bydd y gwasanaeth caniatáu yn cynnig cyfieithiadau i:

  • Noddwyr holl astudiaethau anfasnachol sy’n cael eu cynnal yn GIG Cymru, yn cynnwys astudiaethau un safle ac astudiaethau a ystyrir yn ‘llwybr i bortffolio’ a
  • Noddwyr holl astudiaethau masnachol ar sail adfer cost.

Dylai’r holl ddogfennau a gynigir i gyfranogwyr gan ymchwilwyr fod ar gael mewn fformat dwyieithog, e.e. deunyddiau hysbysebu, llythyr gwahoddiad i gyfranogwyr, taflenni gwybodaeth a ffurflenni cydsynio i gyfranogwyr.

Mae rhai mesurau iechyd wedi cael eu cyfieithu gan fabwysiadu dull safonol trylwyr. Gweler yma i gael manylion mynediad.

Does neb yn ein tîm ymchwil yn siarad Cymraeg. Sut alla i gasglu fy nata yn Gymraeg?

O ystyried yr amrywiaeth ymhlith siaradwyr Cymraeg ar draws Cymru a’r angen i barchu eu dewisiadau iaith mewn astudiaethau ymchwil, mae’n hanfodol fod ymchwilwyr yn cymryd i ystyriaeth y sialensiau o weithio ar draws rhwystrau iaith wrth gasglu data ymchwil meintiol ac ansoddol.

Dulliau Meintiol

Mae ymateb yn sensitif a phriodol i anghenion a dewisiadau iaith ymatebwyr mewn astudiaethau yn allweddol, nid yn unig o ran gweinyddu mesurau iechyd priodol, ond hefyd ar gyfer dulliau eraill o gasglu data a gaiff eu mabwysiadu gan ymchwilwyr ansoddol. Yng Nghymru, er bod dros 20 o fesurau iechyd wedi cael eu dilysu’n ieithyddol ar gyfer y Gymraeg, mae’r mwyafrif ar gael yn Saesneg yn unig a gall y rhain fod yn amhriodol i ymatebwyr sydd â’r Gymraeg yn ddewis iaith ganddynt. Mae LLAIS wedi ymrwymo i gefnogi’r defnydd o offer ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol cyfrwng Cymraeg yng Nghymru a hyrwyddo dulliau o gyfieithu a dilysu ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. Mae manylion rhai fersiynau Cymraeg o holiaduron iechyd a ddilyswyd yn ieithyddol ar gael ar micym.org

Mae LLAIS yn cydweithio ag ymchwilwyr ledled Cymru i flaenoriaethu’r gofynion at y dyfodol. Cysylltwch â LLAIS, llais@bangor.ac.uk, os oes gennych chi fesur sydd angen ei gyfieithu.
Dulliau Ansoddol
Mae dulliau arfer gorau i wella’r ymwybyddiaeth o’r Gymraeg wrth gasglu data ansoddol yn cynnwys y prosesau canlynol:

  • Sefydlu cyfieithiadau Cymraeg, sydd wedi eu dilysu, o drefn cyfweliadau a chanllawiau testunau grwpiau ffocws.
  • Sicrhau cywirdeb ac addasrwydd cyfieithiadau drwy werthuso cywerthedd dogfennau ar draws fersiynau iaith a mabwysiadu’r cywair a’r arddull iaith briodol
  • Cynnal cyfweliadau a grwpiau ffocws yn newis iaith y cyfranwyr, lle bo hynny’n bosibl
  • Cynnig hyfforddiant ymwybyddiaeth o’r Gymraeg a hyfforddiant sgiliau Cymraeg i staff ymchwil

Mae sicrhau cywirdeb a phriodoldeb dogfennau a gyfieithir yn dibynnu’n helaeth ar arbenigedd a medrusrwydd y cyfieithydd. Mae Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru
http://www.cyfieithwyrcymru.org.uk/chwilio_aelodaeth-17.aspx
yn cynnig rhestr o gyfieithwyr proffesiynol yn ôl sir, meysydd arbenigedd a lefel aelodaeth. Mae’r gymdeithas yn annog rhai sy’n cyflogi neu gomisiynu cyfieithwyr i drafod materion megis telerau ac amodau, cystrawen a chywir, a chynllun dwyieithog.

Er mwyn sicrhau y gall tîm ymchwil gynnal cyfweliadau a grwpiau ffocws yn effeithiol yn Gymraeg, mae angen i’r tîm sicrhau bod ganddo nifer digonol o ymchwilwyr sy’n siarad Cymraeg. Os nad felly, anogir ymchwilwyr i ystyried darparu hyfforddiant yn y Gymraeg i staff neu ddulliau eraill o recriwtio ymchwilwyr dwyieithog ar gyfer astudiaethau penodedig. Cysylltwch â LLAIS i gael hyfforddiant ar ymwybyddiaeth iaith ac adnoddau i ymchwilwyr (llais@bangor.ac.uk); a Cymraeg i oedolion.

Yn y tymor hir mae Comisiynydd yr Iaith Gymraeg yn argymell bod sefydliadau’n mabwysiadu strategaeth sgiliau dwyieithog fel rhan o’u cynllunio adnoddau dynol sy’n dod â threfniadau gweithredu’r sefydliad o ran staffio, hyfforddiant a recriwtio at ei gilydd. Dylai’r strategaeth hon alluogi’r sefydliad i sicrhau trosolwg dros ei anghenion a’i adnoddau sgiliau ieithyddol, a chydlynu gweithgareddau hyfforddi a recriwtio yn unol â hynny.

Gweler yma am rhagor o wybodaeth.