Trylwyredd

Mae disgwyliadau’r cyhoedd am ddarparu gwasanaethau Cymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yn cynyddu. Ymhellach mae’r dystiolaeth yn awgrymu bod posibilrwydd o ragfarn mewn ymchwil a allai beryglu dilysrwydd canfyddiadau a rhwystro datblygiad tystiolaeth newydd dros bolisi ac ymarfer. Gellir gwella’r sefyllfa drwy sicrhau bod ymchwilwyr yn rhoi ystyriaeth lawn i amrywiaeth ieithyddol eu cyfranogwyr ac yn ymateb yn gadarnhaol i’w hanghenion iaith neu eu dewis iaith. Gall LLAIS gynghori ymchwilwyr ar ffyrdd o ymgorffori ymwybyddiaeth iaith yn eu gwaith er mwyn cryfhau trylwyredd astudiaethau ymchwil.

Cynyddu ymwybyddiaeth o’r Gymraeg mewn ymchwil

O ystyried demograffeg y Gymraeg yng Nghymru a’r ymgyrch ddeddfwriaethol a strategol bresennol i hyrwyddo dwyieithrwydd a chyfiawnder y ddarpariaeth ieithyddol ar draws y sector cyhoeddus, dylid ymgorffori ymwybyddiaeth iaith fel rhan annatod o reoli ymchwil. Dengys ffigwr 1 siart llif ar gyfer cynyddu ymwybyddiaeth iaith mewn ymchwil drwy roi ystyriaeth ddyledus i’r Gymraeg ar gamau allweddol o’r broses ymchwil, e.e.

Wrth fabwysiadu’r dull hwn, gall ymchwil ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru wir adlewyrchu amrywiaeth ddwyieithog y boblogaeth a darparu’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer yr ymarfer a’r polisi gorau i gwrdd ag anghenion defnyddwyr gwasanaethau.

Ffigwr 1

Lawrlwytho PDF o’r Siart