Mesurau iechyd Cymraeg

Mae mesurau iechyd yn cael eu defnyddio’n gynyddol mewn sefyllfaoedd clinigol ac ymchwil i fonitro statws iechyd cleifion ac asesu effaith y ddarpariaeth gwasanaethau ac ymyriadau. Ond mae’r modd y mae unigolion yn dehongli eu hiechyd yn amrywio yn ôl eu hoedran, profiadau a’u cefndir diwylliannol. Rhaid ystyried yr holl ffactorau hyn wrth ddatblygu adnoddau iechyd er mwyn iddynt fod yn addas i’w diben ac yn sensitif i anghenion cleifion. Mae’r dull gweithredu hwn yn arbennig o bwysig mewn ymchwil ym maes iechyd, lle mae cywirdeb a dibynadwyedd canfyddiadau’n holl bwysig; mae canlyniadau astudiaethau’n aml yn deillio o amrywiaeth eang o gleifion.

Mae cyfathrebu mewn ffordd sy’n ymateb i anghenion ieithyddol a diwylliannol penodol cleifion a defnyddwyr gwasanaethau yn gymorth i ddysgu mwy am agweddau ar eu hiechyd personol a chael gwybodaeth fwy cywir am statws eu hiechyd.Hynny ydi, , mae rhannu’r un iaith yn ffordd o sefydlu tir cyffredin ar gyfer cyfathrebu a dealltwriaeth, ac yn gymorth i allu gweld realiti profiadau’r claf. Felly, yng nghyd-destun dwyieithog Cymru, mae’n hanfodol bod mesurau iechyd yn cael eu cynnig trwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â’r Saesneg, yn ôl angen neu ddewis yr unigolyn.

Er gwaethaf ymdrechion cynyddol i wella gwasanaethau gofal iechyd dwyieithog yng Nghymru, nifer cyfyngedig yn unig o fesurau iechyd sydd ar gael yn y Gymraeg.

Mae hyn yn golygu bod statws iechyd rhai siaradwyr Cymraeg yn cael ei gam-ddehongli o bosib; a gall hyn beryglu eu gofal a chael effaith andwyol ar drylwyredd yr ymchwil a gynhelir mewn cyd-destun ddwyieithog.

Fideo: Sefydlu fersiynau Cymraeg o fesurau iechyd

Fideo: Gwerfyl Roberts yn cyflwyno ar y Pecyn Asesu Gwybyddol ym Mhabell Cyngor Gofal Cymru yn Eisteddfod Meifod, Awst 2015

Gwefan MI-CYM

Mae gan LLAIS wefan ryngweithiol o’r enw Mesurau Iechyd Cymraeg neu MI-CYM, lle ceir gwybodaeth am y mesurau iechyd sydd ar gael yn Gymraeg, ynghyd â gwybodaeth am sut i gael mynediad atynt a threfniadau trwyddedu. Mae hefyd yn galluogi’r rhai sy’n ymwneud â chyfieithu mesurau iechyd i rannu gwybodaeth am eu cynnydd fel y gellir datblygu canolbwynt o wybodaeth gynhwysfawr.

: MI-CYM ar Twitter

Mae MI-CYM yn cynnwys manylion am y mesurau canlynol:

  • ACE-III
  • Ansawdd Bywyd Dementia (DEMQoL) (Fersiwn 4)
  • BDI-II
  • Bodlonrwydd â gwybodaeth am feddyginiaethau (SIMS)
  • CADI
  • CAMI
  • CASI
  • EORTC QLQ C-30 (Fersiwn 3)
  • EORTC QLQ PR25
  • EPIC-26
  • EQ-5D-3L
  • EQ-5D-5L
  • GPCOG
  • Graddfa ar gymryd Meddyginiaethau Morinsky (MMAS)
  • Graddfa Difaru Penderfyniad
  • Graddfa Estynedig ADL Nottingham (NEADL)
  • Graddfa Iselder Pobl Hŷn (GDS)
  • Graddfa Lles Warwick-Caeredin (WEMWS)
  • Graddfa Profiad Gofalwyr (CES)
  • HADS
  • Holiadur agweddau tuag at dementia (ADQ-Gen)
  • Holiadur Ansawdd Bywyd Pobl Hyn (OPQoL-35)
  • Holiadur barn am feddyginiaeth (BMQ)
  • Holiadur Strategaethau Cefnogi Cleifion
  • ICECAP-A (Ar gyfer oedolion)
  • ICECAP-O (Ar gyfer pobl hŷn)
  • K6+
  • Mini-ACE-III (M-ACE-III)
  • MOCA
  • Mynegai Anawsterau Cymdeithasol (SDI-21)
  • Mynegai Barthel (BI)
  • Mynegai Symudedd Rivermead (RMI)
  • Offer asesu CATS
  • PHQ-9
  • SF-12 v2 aciwt
  • SF-12 v2 safonol
  • SF-36 v2 aciwt
  • SF-36 v2 safonol
  • CIT-6 Cymraeg

  • PSCS – 8

  • PSCS – 8 16

Adborth ar Fesurau Iechyd Cymraeg

Rwy’n arbennig o falch fod yr holiaduron wedi’u cyfieithu i’r Gymraeg.

Yr Athro Rob Horne, awdur BMQ a SIMS

Diolch yn fawr am eich sylw a’r wybodaeth ddiweddaraf am gyfieithu’r MMAS-4 fel y mesur Cymraeg olaf. Rwy’n gwerthfawrogi’ch dyfalbarhad a’ch dull cynhwysfawr o gyfieithu, ynghyd â’r gweithdrefnau sicrhau ansawdd a ddefnyddiwyd i gynhyrchu adnodd dilys. Rwy’n fodlon i chi gofrestru hyn ar eich gwefan a byddwn yn ddiolchgar pe baech yn rhoi gwybod i mi beth yw’r manylion cyswllt ar gyfer mynediad i’ch gwefan a chyfieithiad yr MMAS-4.

Yr Athro Donald Morisky, awdur Medication Adherence Scale

Llawer o ddiolch i chi am eich holl waith ar y project hwn – mae wedi bod yn bleser cydweithio â chi.

Michael Herdman, cyd-awdur EQ-5D-5L

Falch o weld bod adnoddau Cymraeg ar gael (PHQ-9).

Therapydd Iechyd Meddwl Cymunedol, Cwm Tawe

Thank you so much for the copy of the Welsh DEMQoL, very happy to give permission for you to make this available on the website you suggest, you could include a link to our DEMQoL site for further information.

Yr Athro Sube Banerjee

Thank you for all your work... it’s all been really helpful and a really positive learning experience.

Dr Sara Hammond-Rowley (Gwasanaeth Seicolegol Plant, BCUHB)

Os ydych chi yn ymchwilydd neu yn weithiwr iechyd proffesiynol sydd angen mesur iechyd wedi cael ei ddilysu i’r Gymraeg, cysylltwch â ni: llais@bangor.ac.uk