Staff LLAIS

Mrs Beryl Cooledge

Mae Beryl Cooledge yn nyrs gofrestredig wedi astudio hyd at lefel meistr.  Mae hi’n Arweinydd Modiwl, Darlithydd ac yn Gyfarwyddwr Dwyieithrwydd yr Ysgol Gwyddorau Iechyd, Prifysgol Bangor, ac yn Gyfarwyddwr LLAIS (Language Awareness Infrastructure Support/Cefnogi Isadeiledd Ymwybyddiaeth Iaith) yn NWORTH (Uned dreialon Gogledd Cymru). Mae gan  Beryl  gyfoeth o brofiad yn y maes nyrsio oedolion ac wedi gweithio fel Nyrs Arbenigol Clinigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac hefyd ym Maenceinion (Manchester Royal Infirmary).  Mae Beryl yn angerddol am safonau uchel mewn gofal nyrsio, yn eiriolwr dros ofal sy'n canolbwyntio ar y person a grymuso unigolion yn y maes gofal iechyd.  Ei harbenigedd clinigol oedd gofal dwys a rheoli poen.  Yn ystod ei hamser yn gwneud gwaith clinigol bu'n ymwneud â nifer o astudiaethau rheoli poen gan gynnwys treial poen Cymru gyfan a threialon analgesia amrywiol.  Fel uwch Nyrs Arbenigol Clinigol, roedd ei gwaith yn cynnwys archwilio ac arwain strategaethau gwella ansawdd yn y  maes rheoli poen.   Mae Beryl yn awyddus i ddatblygu prosiectau sy’n ymwneud a’r cynnig rhagweithiol ac yn awyddus i ehangu’r nifer o fesurau iechyd a gofal sydd ar gael ar gyfer darparwyr gwasanaethau ac ymchwilwyr. Bydd y mesurau hyn yn cael eu gosod ar wefan micym.org.

Manylion cyswllt:

Mrs Beryl Cooledge
Cyfarwyddwr LLAIS
Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd
Fron Heulog, Ffordd Ffriddoedd
Bangor, Gwynedd, LL57 2EF

01248 38 3153

b.cooledge@bangor.ac.uk

Dr Llinos Haf Spencer

Description: Photo of Llinos Haf SpencerMae Llinos yn Swyddog Ymchwil yn CHEME ac yn Swyddog Ymchwil ar gyfer LLAIS (Cefnogi Isadeiledd Ymwybyddiaeth Iaith) ar gyfer Uned Treialon Clinigol NWORTH ym Mhrifysgol Bangor. Mae ganddi radd (1995) a PhD (2000) mewn Seicoleg o Brifysgol Lerpwl ac mae wedi gweithio fel Cymrawd Dysgu a Swyddog Ymchwil ar wahanol brosiectau ymchwil sy'n ymwneud ag iechyd ym Mhrifysgol Bangor ers 1999 gan gynnwys astudiaethau ar ddilyniant canser (TOPCAT- G), diabetes math-1 mewn plant (Prosiect EPIC), gofal diwedd oes (Prosiect Fy Newisiadau), ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg mewn gofal iechyd, Trosglwyddo'r Gymraeg o fewn y teulu (Twf ac ymlaen), a Prosiect Tlodi Addysg Gwledig (REAP) i enwi rhai. Roedd Llinos hefyd yn gyd-awdur ar adroddiad Byw yn iach yn hirach ar gyfer Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae gan Llinos ddiddordeb penodol yn iechyd a llesiant pobl sy'n byw yng Nghymru.

Manylion cysylltu:

Dr Llinos Haf Spencer
Swyddog Ymchwil
LLAIS, NWORTH
Y Wern, Safle’r Normal
Bangor, Gwynedd, LL57 2PZ

01248 38 3171

l.spencer@bangor.ac.uk