Archif LLAIS

Newyddion Gwanwyn 2012

Prosiect ELAN: Sefydlu Ymwybyddiaeth Iaith o fewn NISCHR CRC (ELAN)

Lansiwyd Prosiect cydweithredol ELAN ym mis Awst 2011. Mae'n cynnig cyfle gwych i hyrwyddo ymwybyddiaeth iaith a diwylliant ym maes ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn recriwtio mwy o bobl sy'n siarad Cymraeg. Darllenwch am y prosiect isod

Cefndir

Mae Cymru yn wlad ddwyieithog datganoledig lle mae’r Gymraeg yng nghraidd ei hunaniaeth genedlaethol a’i fframwaith deddfwriaethol. Mae’n ddyletswydd ar NISCHR CRC i roi ystyriaeth i ymwybyddiaeth o’r Gymraeg mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol, yn unol â gofynion trefn lywodraethol statudol yng nghyswllt ymchwil; ac i gynnwys sensitifrwydd ieithyddol a diwylliannol o fewn cyd-destun arfer clinigol da. Gyda chefnogaeth gan LLAIS, y Gwasanaeth Cefnogi Isadeiledd Ymwybyddiaeth o Iaith, mae’r broses o greu hyfedredd ar draws y sefydliad yn gofyn am ddull o weithredu ar draws y system yn ei chrynswth, ar sail tystiolaeth, sy’n rhoi ystyriaeth lawn i safbwyntiau unigol, yn ogystal â rhwystrau a hwyluswyr cyd-destunol a sefydliadol. Pwrpas yr astudiaeth hon yw datblygu dull systematig o feithrin newid yn strategaeth a reolaeth weithredol NISCHR CRC er mwyn hybu ymwybyddiaeth iaith a diwylliant mewn ymchwil .

Amcanion yr Astudiaeth

1. Defnyddio’r sylfaen o dystiolaeth ar gyfer integreiddio ymwybyddiaeth iaith i ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.
2. Defnyddio tystiolaeth i bennu safonau sefydliadol ar gyfer cynnal ymchwil sy’n briodol o ran iaith
3. Archwilio arfer wrth ochr safonau allweddol ar draws tri rhwydwaith rhanbarthol NISCHR CRC
4. Adnabod rhwystrau a hwyluswyr o ran cynnal safonau.
5. Creu ymyriadau newydd ar gyfer integreiddio ymwybyddiaeth iaith o fewn NISCHR CRC

Cynllun yr Astudiaeth

Gan fabwysiadu model PARIHS ar gyfer arwain y gweithredu ar ymarfer ar sail tystiolaeth (Rycroft-Malone 2004), mae’r project 12 mis hwn ar waith o Awst 2011 hyd at Awst 2012, ac yn cynnwys 4 cam, fel a ganlyn:
• Cam 1: Cyfuno tystiolaeth
• Cam 2: Pennu safonau
• Cam 3: Gwerthuso
• Cam 4: Creu ymyriadau

Beth yw diben y project?
Amcan y project yw meithrin newid trwy osod safonau a strategaethau i hyrwyddo ymwybyddiaeth iaith a diwylliant ym maes iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn recriwtio mwy o bobl sy’n siarad Cymraeg.

Pam ei fod yn bwysig?
Bydd yn sicrhau bod staff NISCHR CRC yn gweithio o fewn y ‘Fframwaith Llywodraethu Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru’ a gwella mynediad i ymchwil ym maes iechyd a gofal cymdeithasol trwy fod yn sensitif at ddiwylliant a dewis iaith.

Sut mae’n berthnasol i waith craidd NISCHR CRC?
Bydd y safonau yn:
• gadael i’r gweithlu ddangos ymarfer dda;
• golygu eu bod yn gweithio fel eiriolwyr i ymwybyddiaeth iaith wrth gefnogi Grwpiau Ymchwil Cofrestredig NISCHR; a thu hwnt;
• cyfrannu at yr agenda cydraddoldeb ac amrywiaeth;
• cyd-fynd â swyddogaethau craidd NISCHR CRC.

Beth yw’r manteision posibl?
• bydd safonau ac ymyriadau yn cyfrannu at ddatblygu ethos yn NISCHR CRC lle na ellir cael mynediad at ymchwil oherwydd rhwystrau iaith neu ddiwylliant;
• bydd yr holl staff yn gweithio i’r un safonau;
• bydd mynediad haws at ymchwil i gyfranogwyr sy’n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf;
• gellir recriwtio mwy o siaradwyr Cymraeg;
• dangos model rhyngwladol o ymarfer dda mewn cyd-destun dwyieithrwydd/amlieithrwydd.

Pa effaith a gaiff ar gyfranogwyr ymchwil?
Ni fydd cyfranogwyr ymchwil sy’n cymryd rhan mewn astudiaeth gyda chefnogaeth NISCHR CRC yn methu cael mynediad oherwydd rhwystrau iaith a diwylliant. Bydd cyfle i ddangos bodlonrwydd a chywirdeb.

Sut fydd yn effeithio ar waith staff NISCHR CRC?
Dros amser bydd staff NISCHR CRC yn gallu ymateb i anghenion iaith Gymraeg mor barod a naturiol ag y maent yn ymateb i anghenion Saesneg.

Aelodau’r Tîm a’u Harbenigedd

Enw
Sefydliad
Arbenigedd
Gwerfyl Roberts, Lead LLAIS, NISCHR CRC / Prifysgol Bangor Ymwybyddiaeth o Iaith
Zoe Whale NISCHR CRC Hyfforddi a Datblygu
Jayne Jones NISCHR CRC Rheoli Gweithredoedd
Dr Chris Burton Prifysgol Bangor Gwyddor gweithredu
Prof Jo Rycroft Malone Prifysgol Bangor Gwyddor gweithredu
Lucie Hobson Rhwydwaith Ymchwil NISCHR CRC NW Hyrwyddwr ymwybyddiaeth iaith
Barbara Moore Swyddfa Ganolog NISCHR CRC Hyrwyddwr ymwybyddiaeth iaith
Sarah Hunt Rhwydwaith Ymchwil NISCHR CRC SEW Hyrwyddwr ymwybyddiaeth iaith
Marie Williams Rhwydwaith Ymchwil NISCHR CRC SWW Hyrwyddwr ymwybyddiaeth iaith

Gwasanaeth Cefnogi Isadeiledd Ymwybyddiaeth Iaith (LLAIS)
Implement@BU, Canolfan Ymchwil Gysylltiedig ag Iechyd, Prifysgol Bangor
Uwch staff gweithredu a hyfforddi NISCHR CRC
Hyrwyddwyr Ymwybyddiaeth Iaith NISCHR CRC o’r tri rhanbarth a’r Swyddfa Ganolog


Am fwy o fanylion, cysylltwch â Gwerfyl Roberts ar 01248 383165 llais@bangor.ac.uk

Awst 2011

 

Lansio adnoddau nyrsio arloesol yn y Gymraeg

Lansiwyd adnoddau dysgu cyfrwng Cymraeg ar gyfer myfyrwyr Nyrsio ar stondin Prifysgol Bangor yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam eleni.

Wedi derbyn cefnogaeth a nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am eu menter, bu tîm o Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor yn arwain project i ddatblygu adnoddau dysgu ar gyfer eu myfyrwyr nyrsio, er mwyn iddynt dderbyn hyfforddiant arbennig mewn nyrsio pobol ag Anableddau Dysgu, a hynny drwy’r Gymraeg. Mae'r adnoddau hyn eisoes wedi ennill Gwobr Addysg, Gwobrau’r Gymraeg Mewn Gofal Iechyd GIG Cymru a Llywodraeth Cymru,

Yn ogystal ag ymestyn y ddarpariaeth addysg uwch drwy’r Gymraeg, bydd y deunyddiau dysgu’n cyfrannu at y nod o sicrhau bod pobol efo anableddau dysgu yn derbyn yr un safon gofal iechyd â gweddill y gymdeithas, rhywbeth a nodwyd nad yw’n digwydd ar lefel cenedlaethol ar hyn o bryd.

Bydd yr adnoddau dwyieithog ar gael nid yn unig i hyfforddi myfyrwyr nyrsio ym Mhrifysgol Bangor, ond hefyd ar gyfer myfyrwyr Nyrsio mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru, gan safoni’r ddarpariaeth drwy Gymru a’i chynnig yn Gymraeg am y tro cyntaf. Bydd yr adnoddau hefyd ar gael ar gyfer unrhyw staff sy’n gweithio ym maes gofal pobol efo anableddau dysgu ac sy’n dymuno gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg, neu’n gwneud hynny eisoes.

Meddai Ruth Wyn Williams, Cymrawd Dysgu cyfrwng Cymraeg yn yr Ysgol, a fu’n arwain y Project a dderbyniodd £1,000:

“Mae disgwyl i bob myfyriwr sy’n graddio fod wedi magu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth sylfaenol o faes nyrsio anabledd dysgu. Rydym hefyd yn ymwybodol o’r angen i ddarparu staff nyrsio proffesiynol i ymarfer mewn sefyllfa ddwyieithog.”

Meddai Dr Dafydd Trystan o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol:

"Rwy’n falch iawn fod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cefnogi datblygiad adnoddau ym maes Nyrsio. Mae tystiolaeth annibynnol yn dangos fod y gallu i ymarfer yn broffesiynol yn ddwyieithog yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd y claf, ac felly mae’n bwysig iawn fod y cyfleoedd i fyfyrwyr nyrsio astudio yn Gymraeg yn ehangu’n sylweddol iawn."

 

Mehefin 2011

 

Fersiwn Gymraeg o HADS ar gael yn awr

Mae’n bleser gan LLAIS gyhoeddi y cwblhawyd y gwaith o ddilysu’n ieithyddol y Raddfa Pryder ac Iselder Ysbytai (HADS) ar gyfer y Gymraeg. Dyma ychwanegu at ddwy raddfa iselder arall sydd ar gael yn y Gymraeg yn awr, sef Rhestr Iselder Beck-II, a’r Raddfa Iselder Geriatrig. Gwnaed y gwaith ar y cyd gyda Chanolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor; aelodau’r rhwydwaith Cynnwys Pobl; a thîm o gyfieithwyr annibynnol. Awdurdodwyd y cyfieithiad gan Mapi Research, Lyon, Ffrainc, yn eu swyddogaeth gytundebol ar gyfer GL Assessment, perchennog hawlfraint a chyhoeddwr y raddfa wreiddiol, a ddatblygwyd gan Zigmond a Snaith yn 1983.   

Roedd HADS wedi cael ei gyfieithu i nifer o ieithoedd, ond nid oedd yr un fersiwn Cymraeg awdurdodedig o’r raddfa ar gael. Eto i gyd, gall siaradwyr Cymraeg, yn arbennig y rhai â phroblemau iechyd meddwl, fod yn agored i gam-ddiagnosis a chamreolaeth os na fydd asesiadau ar gael yn yr iaith sydd ei hangen arnynt. Felly, dylai fersiwn Cymraeg o HADS, a gyfieithwyd yn fanwl gywir, fod yn declyn gwerthfawr ar gyfer ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol ym maes gofal iechyd i wella darpariaeth gofal i ddefnyddwyr gwasanaeth yng nghyd-destun dwyieithog Cymru.

Gan fabwysiadu Canllawiau ar gyfer Dilysiad Ieithyddol Mesur Deilliant a Adroddir gan Gleifion Uned Ymchwil Mapi (2005), roedd tri phrif gam i’r project. Roedd y rhain yn cynnwys cyfieithu ymlaen; cyfieithu yn ôl; ac aelodau’r rhwydwaith Cynnwys Pobl (gweler y lluniau isod) yn eu profi fel defnyddwyr gwasanaeth. Cyflwynwyd adroddiad manwl i MAPI Research yn nodi manwl gywirdeb y dull gweithredu.

Mae LLAIS yn awyddus i symud ymlaen i ganfod dibynadwyedd a dilysrwydd cynnar y fersiwn Cymraeg o HADS cyn ei brofi ar raddfa fawr. Byddai’n bleser gennym glywed felly gan gydweithwyr ymchwil ar draws Gymru sy’n defnyddio (neu’n bwriadu defnyddio) HADS fel mesur deilliant yn eu hastudiaethau ac a fyddai’n awyddus gweithio gyda LLAIS wrth sefydlu astudiaeth ddilysu yn eu hymchwil.

For access to the Welsh HADS, researchers are advised to follow the standard HADS licensing procedure, as follows.

 

Cliciwch ar y cyswllt isod am y rhestr ddiweddaraf o Fesurau Deilliant a Adroddir gan Gleifion (PROMs) sydd ar gael yn Gymraeg.

Mesurau Deilliant a Adroddir gan Gleifion (PROMs) trwy’r Gymraeg – Diweddariad Mehefin 2011

 

Cynnydd ar Ddilysu fersiynau Cymraeg o PROMS

Mae holiaduron iechyd yn cael eu defnyddio’n gynyddol mewn lleoliadau clinigol ac ymchwil i fonitro statws iechyd cleifion ac asesu effaith y triniaethau y maent yn eu cael. Ond mae dehongliadau unigol yn ymwneud ag iechyd yn dibynnu ar oed rhywun, eu profiad a’u cefndir diwylliannol. Felly, wrth lunio offer mesur iechyd mae angen cymryd y ffactorau hyn i gyd i ystyriaeth, fel eu bod yn addas i'r diben ac yn sensitif i anghenion cleifion.   Mae’r dull gweithredu hwn yn arbennig o bwysig mewn ymchwil iechyd, lle mae cywirdeb a dibynadwyedd darganfyddiadau yn holl bwysig ac, yn aml, mae canlyniadau astudiaethau’n deillio o boblogaeth eang ac amrywiol o gleifion.

 

I siaradwyr dwyieithog, mae cyfathrebu mewn ffordd sy’n ymateb i’w hanghenion ieithyddol a diwylliannol o gymorth i archwilio eu dimensiynau iechyd personol gan roi gwybodaeth fwy cywir am eu statws iechyd. Mewn geiriau eraill, mae rhannu’r un iaith yn ffordd o sefydlu tir cyffredin ar gyfer cyfathrebu a dealltwriaeth sydd, yn ei dro, o gymorth i weld safbwynt y claf yn glir.  Felly, yng nghyd-destun dwyieithog Cymru, mae’n hollbwysig bod holiaduron iechyd yn cael eu cynnig yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn unol â dewis neu angen unigolion.

Fodd bynnag, er gwaetha'r cynnydd mewn gwasanaethau gofal iechyd dwyieithog yng Nghymru, dim ond ychydig o holiaduron iechyd sydd ar gael yn Gymraeg. Mae hyn yn golygu y gellir gwneud camddiagnosis a chamreoli yn achos rhai siaradwyr Cymraeg os nad yw asesiadau ar gael yn yr iaith o’u dewis.   Ymhellach, mae’r diffyg hwn hefyd yn codi pryderon ynghylch trylwyredd ymchwil mewn cyd-destun dwyieithog.

 

Gan adeiladu ar raglen waith a ddechreuodd yn 2008, mae LLAIS wedi gwneud cynnydd sylweddol yn cyfieithu ac addasu nifer o holiaduron iechyd i’r iaith Gymraeg a phrofi eu heffeithiolrwydd ymysg defnyddwyr y gwasanaethau. Mae astudiaeth ddiweddar yn canolbwyntio ar gyfieithu ac addasu’r Beck Depression Inventory (II) (BDI-II) yn rhoi enghraifft o’r broses hon. Mae’r BDI-II wedi cael ei chyfieithu i nifer o ieithoedd a gwelwyd ei bod yn gadarn a phriodol i’w defnyddio mewn gwledydd ar draws y byd. Fodd bynnag, tan yn ddiweddar nid oedd fersiwn Gymraeg ohoni ar gael. Gan ddefnyddio dull gweithredu trwyadl, fe wnaeth LLAIS, mewn cydweithrediad â MHRN Cymru, arwain datblygu fersiwn Gymraeg o’r offer. Profwyd hon yn ddiweddarach ymysg grŵp o fyfyrwyr prifysgol Cymraeg eu hiaith a chleifion a oedd yn rhan o’r astudiaeth FolATED, sef prawf clinigol mawr yn y portffolio NISCHR. Cynhyrchodd yr ymchwil nid yn unig fersiwn Gymraeg gadarn o’r BDI-II, ond hefyd datgelodd ddarganfyddiadau newydd a phwysig sy’n fuddiol ar gyfer dulliau cyfieithu a phrofi offer ar lefel ryngwladol. O ystyried cyd-destun dwyieithog unigryw Cymru a’r arbenigedd mewn ymchwil glinigol a dulliau cyfieithu, mae LLAIS mewn sefyllfa ddelfrydol i arwain y gwaith hwn i hwyluso iechyd a lles pobl Cymru a chyfrannu at y sylfaen wybodaeth ehangach ar asesu clinigol traws-ddiwylliannol. Mae papur ymchwil ar y cyd sy’n rhoi adroddiad ar yr astudiaeth hon yn cael ei adolygu ar hyn o bryd yn Value in Health.

Roberts G, Roberts S, Whitaker R, Tranter S, Prys D, Owen H, Tranter R, Sylvestre Y, Bedson E (2011) Enhancing rigour in the validation of patient reported outcome measures (PROMs): bridging linguistic and psychometric testing to develop a Welsh language version of the Beck Depression Inventory II (BDI-II). Value in Health (yn cael ei adolygu).

Urddas mewn Gofal: Rhoi Llais i Bobl Hŷn: Pecyn Cymorth Cymraeg

 

Mae’n bleser gan LLAIS gyhoeddi datblygiad y Pecyn Cymorth Cymraeg Urddas mewn Gofal a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru fel rhan o’i Rhaglen Urddas mewn Gofal. Mae’r pecyn cymorth yn canolbwyntio ar bwysigrwydd a chanolrwydd yr iaith wrth gynnal urddas mewn gofal yng nghyd-destun y Gymru ddwyieithog, yn arbennig gofal i bobl hŷn a rhai â dementia. Mae’r adnodd yn ymateb i fwlch mewn llenyddiaeth a pholisi yn ymwneud ag arwyddocâd ymwybyddiaeth iaith yn yr agenda urddas cyfredol. Yn ogystal, mae’n helpu i osod a sefydlu gwasanaethau iaith Gymraeg fel elfen bwysig o ofal person-ganolog. Mae cydnabod urddas unigolyn yn cyfrannu at eu hymdeimlad o iechyd da ac annibyniaeth. Mae arwyddocâd penodol i hyn yng Nghymru, lle mae iaith yn chwarae rhan bwysig wrth hwyluso mynegiant personol a meithrin teimladau o hunaniaeth, yn arbennig ymhlith pobl hŷn. Felly, lle mae iaith yn aml yn fater o angen yn hytrach na dewis, mae darparu gofal sy’n adlewyrchu iaith a chefndir diwylliannol y cleientiaid yn hanfodol wrth barchu eu hunaniaeth a chynnal eu hurddas yn nes ymlaen yn eu bywyd.

Bwriadwyd y pecyn adnoddau hwn yn bennaf ar gyfer gofalwyr a rheolwyr, addysgwyr a hyfforddwyr. Mae’n cynnig negeseuon allweddol sy’n sail i wasanaeth o ansawdd, a chyfarwyddyd ar gyfer dull gweithredu arfer gorau.

 

Cliciwch ar y cyswllt isod am gopi o’r pecyn cymorth.

Urddas mewn Gofal: Rhoi Llais i Bobl Hŷn: Pecyn Cymorth Cymraeg

 

 

Haf 2010

Cyfieithu Mesuriadau Deilliant a Adroddir gan Gleifion (PROMs) i’r Gymraeg a’u Dilysu o safbwynt Iaith ym maes Therapi Galwedigaethol

Gwnaethpwyd cais i LLAIS yn haf 2010 i ymgymryd â chyfieithu a dilysu yn y Gymraeg dri PROM therapi galwedigaethol yn barod i'w defnyddio fel mesurau deilliant sylfaenol ac eilaidd ar gyfer astudiaeth OTCH, Hap Dreial Rheoledig Clwstwr ar Ymyriad Therapi Galwedigaethol ar gyfer Preswylwyr â Strôc sy’n byw mewn cartrefi gofal yn y DU. Bwriad yr astudiaeth pedair blynedd hon, dan arweiniad Prifysgol Birmingham, yw gwerthuso effeithiau cwrs pwrpasol o therapi galwedigaethol i bobl â strôc sydd yn byw mewn cartref gofal, gan roi pwyslais arbennig ar annibyniaeth mewn gweithgareddau byw bob dydd a symudoledd. Mae lleoliad yr astudiaeth yn cynnwys cartrefi gofal mewn ardaloedd yn sir ddwyieithog Gwynedd, lle mae cyfran sylweddol o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg (CCC2003); a lle mae anghenion /dewisiadau iaith mewn astudiaethau ymchwil yn cael eu hwyluso trwy gyfrwng prosesau deddfwriaethol (Deddf yr Iaith Gymraeg 1993) a llywodraethu ymchwil (LlCC 2009).

Mae’r tri PROM yn cynnwys:

 

  • Mynegai Gweithgarwch Byw Bob Dydd Barthel (Mahoney a Barthel 1965) - y mesur annibyniaeth hunanofal a ddefnyddir amlaf mewn gweithgareddau sylfaenol byw bob dydd; a'r asesiad strôc a ddefnyddir amlaf, mewn ymarfer clinigol ac mewn ymchwil

  • Y Raddfa Iselder Geriatrig (Yesavage et al 1983) - mesur a ddylunnir yn benodol ar gyfer graddio iselder mewn pobl hŷn, ac a ddefnyddir yn gyffredin fel rhan o asesiad cynhwysfawr o’r person hŷn.

  • Mynegai Symudoledd Rivermead (Colleen et al 1991) – fe’i disgrifir fel arf syml a chyflym i asesu anabledd symudoledd mewn unigolion â nam niwrolegol, a gwneir defnydd cynyddol ohono mewn astudiaethau ymchwil rhyngwladol sydd yn ymwneud â chleifion â strôc.

 

Er bod y tri mesur wedi eu cyfieithu i amryw o ieithoedd ac er bod profion wedi dangos eu bod yn gadarn yn seicometrig ac yn addas i'w defnyddio mewn gwledydd ar draws y byd, nid oedd dim fersiynau Cymraeg ar gael.

Ar ôl cael caniatâd gan ddeiliaid yr hawlfraint, aeth y tîm ati i gyfieithu ac addasu’r mesuriadau ar gyfer y Gymraeg yn unol â’r dull systematig deg cam a amlinellir yn y Canllawiau ISPOR (Wild et al 2005). Gwnaethpwyd y gwaith mewn cydweithrediad â Chanolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor; aelodau o rwydwaith Involving People ; a thîm o gyfieithwyr annibynnol. Roedd y broses o gomisiynu dau gyfieithiad annibynnol, ôl-gyfieithiad, ac yna greu cyfieithiad cyfun i’w brofi gyda defnyddwyr gwasanaeth, yn ymarfer defnyddiol mewn sicrhau fersiwn eglur a chywir o’r PROMs yn Gymraeg. Ym mis Mai 2011, rhoddwyd cymeradwyaeth foesegol i ymgorffori’r dilysiad seicometrig o Fynegai Barthel Cymru yn yr astudiaeth OTCH ac mae’r gwaith hwn yn mynd rhagddo.

 

‘Deall y Jargon’ – adnodd Cymraeg

Lansiad yn yr Eisteddfod Genedlaethol, 3 Awst 2010

Roedd staff ac aelodau rhwydwaith Cynnwys Pobl yn bresennol ar 3 Awst pan lansiwyd fersiwn Gymraeg y ‘Jargon Buster’ sef ‘Deall y Jargon’: adnodd i helpu i ddeall y derminoleg a’r prosesau a ddefnyddir yn y maes ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol.

Lansiwyd yr adnodd yn Gymraeg (roedd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd i’r Saesneg ar gael) yn stondin Prifysgol Bangor yn Eisteddfod Genedlaethol Blaenau Gwent, ar gyrion Glyn Ebwy. Fel yr oedd nifer o bobl wedi disgwyl, bu’n glawio yn ystod y bore, ond erbyn amser cinio roedd yr haul yn disgleirio ac roedd yr awyrgylch yn llawn egni.

Roedd panel o bobl yn lansio ‘Deall y Jargon’, gan gynnwys Hywel Williams AS. Siaradodd Hywel yn huawdl â’r gynulleidfa, a oedd yn bennaf yn cynnwys siaradwyr Cymraeg, ynghylch pwysigrwydd hwyluso ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yn newis iaith y cyfranogwyr. Siaradodd hefyd am yr heriau a oedd yn wynebu cyfranogwyr a oedd yn rhan o ymchwil, lle'r oedd iaith a themâu’r prosiectau’n gymhleth yn aml. Cymeradwyodd iaith glir a naturiol ‘Deall y Jargon'.

Lansiodd Hywel y llyfryn yn ffurfiol drwy gyflwyno copi i aelod rhwydwaith Cynnwys Pobl, Alwyn Rowlands, a siaradodd yn angerddol â’r gynulleidfa ynghylch ei brofiadau o ymwneud â phrosiectau ymchwil a phwysigrwydd cymryd rhan weithredol. Anogodd y rhai nad oeddynt yn aelodau o Cynnwys Pobl i ymuno a chymryd rhan.

Roedd siaradwyr eraill ar y panel yn cynnwys Gwerfyl Roberts o Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor a LLAIS; Delyth Prys, Cyfarwyddwr, Uned Technoleg Iaith, Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor; a Lynne Thomas, Swyddog Cynnwys Pobl.

Siaradodd Gwerfyl am y pwysicrwydd o recriwtio siaradwyr Cymraeg i rwydwaith Cynnwys Pobl a phwysleisiodd sut mai denu siaradwyr Cymraeg yw’r allwedd i sicrhau bod yr iaith Gymraeg yn derbyn sylw mewn ymchwil ac yn dod yn rhan annatod o bolisi ac ymarfer.

Roedd aelodau rhwydwaith Cynnwys Pobl yn y gynulleidfa, Avril Cooper, Alan Bowen ac Eiddwen Thomas, sydd oll yn siaradwyr Cymraeg. Roedd gweithwyr iechyd, ymchwilwyr, cyfieithwyr, swyddogion iaith, aelodau Bwrdd yr Iaith Gymraeg a Chanolfan Ymchwil Clinigol y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd (NISCHR CRC) yn y gynulleidfa hefyd. Roedd amrywiaeth y gynulleidfa yn dangos faint o bobl oedd yn teimlo’n frwd iawn am wella safonau gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru a phwysigrwydd yr iaith Gymraeg yn hyn o beth.

Paratowyd cyfieithiad ac addasiad Cymraeg ‘Deall y Jargon' mewn cydweithrediad ag Uned Cymraeg Clir, Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor. Comisiynwyd y llyfryn hwn gan LlAIS, Prifysgol Bangor, ar y cyd â Chynnwys Pobl. 

Mae ‘Deall y Jargon’ yn ddefnyddiol i gleifion, defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr sy’n rhan o waith ymchwil yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol ac mae Cynnwys Pobl yn falch o fod wedi cael ei gynrychioli pan oedd yn cael ei lansio’n swyddogol.

Ceir dolen i Deall y Jargon isod.

Gwerfyl Roberts, LLAIS

Alwyn Rowlands, Involving People

Eiddwen Thomas & Lynne Thomas Hywel Williams & Alwyn Rowlands

 

Newyddion 9/6/10

Partneriaeth PILSen yn ennill Gwobr y Gymraeg mewn Gofal Iechyd

Mae partneriaeth arloesol sy'n cynnwys pedair canolfan rhagoriaeth o Brifysgol Bangor yn dathlu ennill gwobr y Gymraeg mewn Gofal Iechyd.

Mae'r project PILSen: Ymyriadau Ymarfer ar gyfer Sensitifrwydd Iaith: Astudiaeth Arbrofol ar Gyflwyno Gwasanaethau Fferyllol yng Nghymru, yn bartneriaeth rhwng y GIG a LLAIS, grŵp ymchwil ymwybyddiaeth iaith Y Ganolfan Ymchwil Gysylltiedig ag Iechyd, Y Ganolfan Ymchwil ESRC dros Ymchwil i Theori ac Ymarfer Dwyieithrwydd, NWORTH, Sefydliad Hap-dreialon Iechyd Gogledd Cymru a CEPhI, grŵp Economeg Iechyd Prifysgol Bangor.

Nod y project oedd cynnal astudiaeth drylwyr a oedd yn craffu ar y cysylltiad rhwng iaith yr ymgynghori rhwng cleifion a fferyllwyr cymunedol a'r ffordd y mae pobl yn defnyddio eu meddyginiaeth wedyn.

Mae Gwobrau'r Gymraeg mewn Gofal Iechyd yn llwyfan i rannu a dathlu'r arferion gorau o ran cryfhau'r Gymraeg. Y bwriad yw gwneud yn siŵr bod pobl Cymraeg eu hiaith yn gallu cael gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ddidrafferth yn eu mamiaith. Enillodd PILSen y wobr 'Ymarfer blaengar mewn gofal sylfaenol sy'n ymateb i anghenion cleifion am wasanaeth dwyieithog."

Meddai Gwerfyl Roberts o LLAIS, "Mae LLAIS, a gyllidir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, eisoes yn cymryd camau breision tuag at wella ymwybyddiaeth iaith mewn gofal iechyd, ond dyma'r astudiaeth gyntaf o'i fath i ddod ag ystod mor eang o arbenigedd at ei gilydd yn y gymuned a'r brifysgol i astudio cysylltiadau rhwng iaith ac iechyd."

"Mae'n agor y ffordd i ddeall sut y gellir defnyddio cynllunio ieithyddol i wella'r modd y mae gwasanaethau yn cael eu darparu ar gyfer y boblogaeth leol, ac yn ehangach, ar lefel genedlaethol a rhyngwladol."

"Mae ennill y wobr yma yn ein galluogi ni i symud ymlaen i gynllunio rhaglen ymchwil mwy eang a fydd yn gosod sail tystiolaeth gadarn ar gyfer datblygu polisi a darparu gwasanaethau i'r dyfodol."

Dywed beirniaid y gystadleuaeth "Cryfder y prosiect ymchwil hwn yw ei fod yn cyfeirio at oblygiadau gweithredu ac nid dim ond ymchwil academaidd. Mae ganddo'r potensial i gael effaith ar gleifion drwy roi'r offer i ddangos i ddefnyddwyr gwasanaethau fferyllol fod dewis iaith y claf yn bwysig. Mae cam arall i fynd i weld yr union effaith ond mae'n glir fod y gwaith yn braenaru'r tir i gynnal ymchwil ar raddfa fwy er mwyn ehangu gwasanaeth dwyieithog."

O'r chwith i'r dde: Marc Phillips, Bwrdd yr Iaith Gymraeg, Gwerfyl Roberts a Heledd Owen o LLAIS gyda'u gwobr.

Darlith Gyhoeddus

“Advocating for Language Services in Healthcare:Learning from the US Experience”

Dr Elizabeth Jacobs MD, MAPP

Dydd Mercher 26 Mai 2010, 5.00 yh, Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd.

Cyfieithiad ac Addasiad Cymraeg o ‘Jargon Buster’

Mewn menter ar y cyd rhwng LLAIS ac INVOLVE, mae’r adnodd ‘Jargon Buster’ wedi cael ei gyfieithu a’i addasu’n ddiweddar ar gyfer yr iaith Gymraeg. Mae’r Jargon Buster yn un o gyfres o bedwar llyfryn gan INVOLVE, sy’n ffurfio’r Pecyn Gwybodaeth Gyhoeddus (Public Information Pack). Pecyn yw hwn ar gyfer y cyhoedd (er enghraifft, defnyddwyr gwasanaeth, gofalwyr, cleifion) sydd â diddordeb mewn ymwneud ag ymchwil yn gysylltiedig â’r GIG, iechyd cyhoeddus neu ofal cymdeithasol.

Gwnaed y cyfieithiad gan ‘Cymraeg Clir’ (fersiwn Gymraeg ‘Plain English’) mewn ymgynghoriad â LLAIS. Hefyd gwnaed addasiadau, lle roedd yn briodol, ar gyfer cyd-destun Cymru. Defnyddir y cyfieithiad Cymraeg, ‘Deall y Jargon’, i ddibenion anfasnachol a bydd ar gael ar wefannau LLAIS, Cynnwys Pobl ac INVOLVE.

LLAIS

Cynnwys Pobl

www.invo.org.uk

Cymraeg Clir

'Deall y Jargon'

 

Adroddiad Ymchwil a Gomisiynwyd

Roberts G, Irvine F and Owen H (2010) Prif-ffrydio Neges Twf i Waith Bydwragedd ac Ymwelwyr Iechyd. Adroddiad ar gyfer Bwrdd yr Iaith Gymraeg.

Astudiaeth Ymchwil Newydd

Datganiad i’r Wasg Mawrth ‘09

Adnodd Newydd LLAIS

Cynrychiolwyd LLAIS yng Nghynhadledd yr RCN ar Ymchwil Nyrsio Rhyngwladol, Caerdydd, 24-27/3/2009 lle cafodd taflen wybodaeth newydd LLAIS ei chynnwys ym mhecyn pob un o’r cynadleddwyr. 
Datblygwyd y daflen wybodaeth ym Mawrth 2009 wedi’i hanelu at y gymuned ymchwil ryngwladol ehangach. Mae hyn yn dangos arwyddocâd byd-eang ymwybyddiaeth iaith mewn ymchwil gofal iechyd a’r potensial i sefydlu ymchwil gydweithredol er mwyn datblygu’r dystiolaeth ar gyfer gwasanaethau priodol o ran iaith.’

Gwahoddwyd Cyd-Gyfarwyddwr LLAIS, Gwerfyl Roberts, i roi araith groeso mewn derbyniad gyda’r nos yn ystod y gynhadledd. 

Cyflwyniadau Cynhadleddau Diweddar a Chynhadleddau sydd i ddod

CRC Cymru Briefing, Abertawe, Mawrth 2010. Cyflwyno Poster.

Roberts G and Irvine F. Aligning Cultural Safety and Language Appropriate Practice: new horizons for nurse education. Nurse Education in a Global Community. International Nurse Education Conference, Sydney, Ebrill 2010.

Roberts G, Owen H, Hughes L, Llewelyn S, John S, Whitaker R, Deuchar M, Hughes D, Irvine F, Prys M, Owen B, and Rowlands A. The Significance of Bilingualism in Healthcare Communication: a feasibility study. Communications, Medicine and Ethics (COMET), 8TH Interdisiplinary Conference, Boston UDA, Mehefin 2010.

International RCN Nursing Research Conference, Caerdydd, 24-27/3/2009

Roberts G, Irvine F, Tranter S & Spencer L (2009) A scoping study of bilingual provision in nurse education.

Communication, Medicine and Ethics (COMET) Seventh Interdisciplinary Conference, Caerdydd, 25th – 27ain Mehefin 2009

Gwerfyl Roberts, Professor Fiona Irvine, Heledd Owen, Delyth Prys (2009) Evaluation of consensus guidelines for the translation of patient reported outcome measures.

International Symposium on Bilingualism 7, Utrecht, Gorffennaf 2009.

Roberts G, Irvine F, Spencer L, Jones P & Tranter S (2009) Evaluation of a scheme for language acquisition planning: an impact survey.

Roberts G, Irvine F, Spencer L, Jones P & Tranter S (2009) Qualitative assessment of a government scheme to support inter-generational language maintenance.

Gwahoddwyd LLAIS i arddangosfa yng Nghynhadledd a Gwobrwyon y Gymraeg mewn Gofal Iechyd, Llandudno, 21/5/2009 lle gwahoddwyd GWR, Cyd-Gyfarwyddwr LLAIS, i gyflwyno un dosbarth o wobrwyon. 

Cyhoeddiadau Newydd

Tranter S, Irvine F, Roberts G, Spencer L, Jones P (2009) The role of midwives and health visitors in promoting intergenerational language maintenance in the bilingual setting: perceptions of parents and health professionals. Journal of Clinical Nursing (in press).

Roberts G, Irvine F, Tranter S & Spencer L (2009) Identifying priorities for establishing bilingual provision in nurse education: a scoping study. Nurse Education Today (in press). doi:10.1016/j.nedt.2009.12.011.

Roberts, G.W. & Irvine, F. (2009) Language awareness in research in R. Iphofen, C.A. Robinson & A. Krayer, A. (Eds.) Reviewing and Reading Research: From Ideas to Findings. A training pack supporting members of the research governance and/or ethical review committees. Prifysgol Bangor.

Cyfieithiad ac Addasiad Newydd o Fesur Deilliant Iechyd a Adroddir gan Gleifion

Mae LLAIS wedi ymrwymo i gefnogi defnyddio dulliau ymchwil cyfrwng Cymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru a hyrwyddo dulliau o gyfieithu a dilysu ar lefel genedlaethol a rhyngwladol. Yn ystod y misoedd diwethaf, mae tîm LLAIS wedi bod yn neilltuol brysur yn datblygu’r mesurau canlynol: 

•Beliefs about Medicine Questionaire (BMQ-S11_G8) (Horne, 1996)

•Satisfaction with Information about Medicines Scale (SIMS) (17 Item) (Horne et al. 2001)

•Morisky Adherence Scale (4-Items) (adapted from Morisky et al 1986)

Mae mesur arall ar y gweill ar hyn o bryd: 

•Medicines and Your Quality of Life (Krska et al 2009)

Mewn gohebiaeth a dderbyniwyd oddi wrth Yr Athro D Morisky, nododd: 

I appreciate your perseverance and comprehensive translation approach, and quality assurance procedures used to produce a valid instrument.’
Donald E. Morisky

Diweddariad o Raddfeydd Mesur Iechyd Cymraeg

Mae’r gwaith hwn ar fynd ac mi fydd ar gael yn fuan.

 

Rhagfyr 2008
Yn ddiweddar, bu i LLAIS gael cynnwys pennod mewn llyfr newydd, sef: Irvine F, Roberts G a Bradbury-Jones (2008) “The researcher as insider versus the researcher as outsider: enhancing rigour through language and cultural sensitivity” yn Liamputtong E (gol.) Doing Cross-cultural Research: Ethical and Methodological Perspectives. t. 35-48. Springer, UDA.

Cyfieithiad Cymraeg o Restr Iselder Beck (BDI-II)

Mae LLAIS yn falch o gyhoeddi bod ein cyfieithiad Cymraeg newydd o Restr Iselder Beck (BDI-II) wedi ei gymeradwyo gan y cyhoeddwyr, Pearson, ar 3 Rhagfyr 2008. Cyfieithwyd y mesur yn unol â chanllawiau ISPOR (Wild et al 2005) sy’n cynnwys nifer o gamau allweddol yn cynnwys cyfieithu, ôl-gyfieithu: cyfuno a chyfarwyddyd gwybyddol.

Mae LLAIS wrthi ar hyn o bryd yn dilysu cyfieithiad Cymraeg y BDI-II gyda sampl boblogaeth glinigol a sampl boblogaeth gyffredinol, fel a ganlyn:
(a) Sampl boblogaeth glinigol

  1. Caiff yr astudiaeth ddilysu ei chynnwys yn y treial clinigol FolATED sydd ar hyn o bryd yn recriwtio cleifion o dair canolfan yng Nghymru.

 (b) Sampl boblogaeth gyffredinol

  1. Cynhelir yr astudiaeth ddilysu gyda sampl hunan-ddethol o fyfyrwyr prifysgol Cymraeg eu hiaith. Gofynnir i’r myfyrwyr gwblhau’r BDI-II Cymraeg ynghyd â chyfres o fesurau cysylltiedig eraill. 

Mae copïau o’r cyfieithiad Cymraeg o BDI-II a chytundebau trwydded ar gael gan Pearson, trwy wneud y canlynol:

1. Ewch i www.Pearsonassess.com

2. Dewiswch "Contact Us" ar ran uchaf y dudalen gyntaf ar y dde

3. Rholiwch i lawr i ganol y dudalen dan "Contact reasons" a dewiswch “Permission Requests”.

4. Llenwch y ffurflen ar-lein a phwyso “Submit” (rhowch ddisgrifiad manwl a phenodol o’r project gan gynnwys eich amcanion, deilliannau disgwyliedig, amserlen, cyfanswm y troeon rydych yn bwriadu atgynhyrchu neu weinyddu’r rhestr a’r ffurf a ddefnyddir (papur/pensil, etc.).

5. Wedi i chi gwblhau ac anfon eich ffurflen, caiff ei throsglwyddo i weinyddwr caniatâd i'w gweithredu.

Cyhoeddi Deunyddiau Ymwybyddiaith Iaith ar gyfer Addysg Nyrsio

Bydd Ms Gwenda Thomas, AC, Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol yn lansio dau adnodd dysgu newydd ac arloesol am 1.00 ddydd Llun 4 Awst ym Mhafiliwn Prifysgol Bangor ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol.
Bwriedir yr adnoddau dwyieithog ar gyfer y gymuned ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru ac mae un yn arbennig wedi cael ei addasu ar gyfer addysg nyrsio. Maent yn amlinellu pwysigrwydd ystyriaethau iaith wrth wneud ymchwil yng nghyd-destun dwyieithog Cymru ac yn cynnig gwybodaeth, arweiniad a chyfleoedd dysgu.
Rhaglen addysgol ryngweithiol ar gyfrifiadur ar gyfer addysg nyrsio yw'r adnodd cyntaf. Gall myfyrwyr dilyn hwn ar eu liwt eu hunain. Y panel Nyrsio Addysg Uwch a roddodd y symbyliad ar gyfer ei greu. Fe'i cyllidwyd gan y Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg fel rhan o fframwaith strategol Addysg Uwch Cymru ar gyfer darpariaeth cyfrwng Cymraeg.
Cyfres o chwe thaflen yw'r ail adnodd, wedi eu hanelu at y gymuned ymchwil. Eu pwrpas yw dangos pa mor bwysig yw dewis iaith wrth gynllunio ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol; a thynnu sylw at y dystiolaeth i gefnogi arfer orau wrth wneud ymchwil mewn lleoliad dwyieithog.
Crëwyd y ddau adnodd fel rhan o orchwyl gwaith LLAIS, sef Gwasanaeth Cefnogi Isadeiledd Ymwybyddiaeth o Iaith, sydd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cynulliad Cymru drwy Swyddfa Cymru ar gyfer Ymchwil a Datblygu Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
'Mae'r Pecyn Hunain Gyfeiriedig Ymwybyddiaeth Iaith yn gam pwysig arall ymlaen wrth ddatblygu darpariaeth addysg nyrsio ddwyieithog yn ein Prifysgolion. Trwy'r gwaith arloesol a wneir gan Brifysgol Bangor ac wrth gydweithredu ar draws Cymru mae'r Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg yn cynllunio datblygiadau sylweddol ym maes nyrsio fydd yn golygu maes o law genhedlaeth newydd o nyrsys fydd yn hyderus i ymarfer ei proffesiwn yn y ddwy iaith, o Fôn i Fynwy,' meddai Ms Gwenda Thomas, AC, Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol a Chadeirydd Grŵp Tasg Gwasanaethau Iaith Gymraeg yn GIG Cymru.
Fel yr esbonia Gwerfyl Roberts o Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor: "Mae dwyieithrwydd yn mynd yn fwy o ffaith bob dydd, ac mae ymwybyddiaeth iaith yn arbennig o arwyddocaol i ni yng Nghymru. Mae tystiolaeth hefyd yn dangos bod trin iaith ac amrywiaethau diwylliannol mewn ffordd sensitif yn gwella iechyd ac yn lleihau anghydraddoldeb. Mewn ymchwil, mae dangos ymwybyddiaeth iaith yn helpu i roi grym i bobl sy'n siarad iaith leiafrifol, gwneud darganfyddiadau'r ymchwil yn fwy dilys a gwneud y broses o ddatblygu polisïau a darparu gwasanaethau'n deg.
Felly, mae'n bwysig bod ymchwilwyr yn parchu dewis iaith y rhai sy'n cymryd rhan wrth gynnal astudiaethau. Heb roi sylw i hyn, efallai y bydd ymchwilwyr yn cyflwyno elfen o ogwydd barn i'w hymchwil. Gall hyn effeithio wedyn ar ansawdd darganfyddiadau'r ymchwil," esbonia Gwerfyl Roberts.
Gweler Taflenni LLAIS ar y safle we am gopiau pdf neu gysylltwch a llais@bangor.ac.uk. am gopiau caled.

Dosberthir y CD ar gyfer addysg nyrsio ymhlith y prifysgolion ym ystod yr hydref.

*****************************************

Araith Mrs Gwenda Thomas, AC,
Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Stondin Prifysgol Bangor,
Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a’r Cylch
4ydd Awst 2008

Gai ddiolch yn fawr am y gwahoddiad i ddod yma i lansio deunyddiau diweddaraf LLAIS.

Mae LLAIS yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y Cynulliad ac mae’n rhan o CRC Cymru, sef Cydweithrediad Ymchwil Clinigol Cymru. Bwriad CRC Cymru yw cynyddu faint o ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol sy’n digwydd yng Nghymru, ac i wella safon. Mae’r ymchwil yma yn ein helpu ni i wella gwasanaethau a thriniaethau ar gyfer cleifion.

Mae’n bleser gen i lansio’r deunyddiau hollbwysig yma sy’n codi ymwybyddiaeth o iaith mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol ymhlith ymchwilwyr a myfyrwyr nyrsio yng Nghymru.

Fel Cadeirydd Tasglu’r Gymraeg mewn Gwasanaethau Iechyd a Chymdeithasol mae sicrhau bod gwasanaethau dwyieithog o safon yn cael eu darparu yng Nghymru yn hollbwysig i mi. Un o brif amcanion y Tasglu yw codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd y Gymraeg a dylanwadu fel bod darpariaeth ddwyieithog yn dod yn rhan naturiol o’r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae hyn yn hollbwysig pan ddaw at waith ymchwil oherwydd nid yn unig mae angen rhoi dewis iaith wrth gynnal ymchwil, ond mae angen cofio y gall peidio cynnwys y gymuned Gymraeg ei hiaith effeithio ar ba mor ddilys yw’r gwaith ymchwil hwnnw.
Mae Llywodraeth y Cynulliad yn sylweddoli ei bod hi’n angenrheidiol bod ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cymryd natur ddwyieithog Cymru a’i siaradwyr i ystyriaeth. Drwy ariannu LLAIS rydyn ni wedi gweld datblygiadau pwysig yn y maes ac rwy’n ffyddiog bod hyn yn gwneud gwahaniaeth. Mae’n bwysig codi ymwybyddiaeth o’r Gymraeg o fewn y gymuned ymchwil, a datblygu portffolio ymchwil sy’n ddiwylliannol ac yn ieithyddol sensitif.

Mae’n braf gweld y bydd rhaglen ddysgu electroneg ddwyieithog ar gyfer myfyrwyr nyrsio i gynyddu eu hymwybyddiaeth o iaith o fewn ymchwil. Mae’n bwysig iawn fod gweithlu’r dyfodol yn ymwybodol o’r angen i fod yn sensitif i ddewis iaith cleifion yng Nghymru. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth i ni ganolbwyntio fwy fwy ar ddatblygu agweddau mwy personol y gwasanaeth sydd ar gael yn Gymraeg, yn hytrach na dim ond sicrhau bod pethau fel arwyddion a thaflenni yn ddwyieithog.

Un o brif flaenoriaethau’r Tasglu yw sicrhau cynllunio’r gweithlu effeithiol. Mae'r un mor bwysig annog siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio’r iaith yn y gweithle. Mae’n hanfodol felly i ddatblygu hyfforddiant dwyieithog - fel bod defnyddio’r Gymraeg yn naturiol yn eu gwaith bob dydd. Hoffwn fan hyn ganmol Prifysgol Bangor am eu darpariaeth addysg uwch cyfrwng Cymraeg, yn enwedig ym maes nyrsio.

Hyderaf y bydd yr adnoddau yma gan LLAIS yn hwb i ymchwilwyr ac o ddefnydd i brifysgolion ar draws Cymru - nid yn unig ym maes nyrsio, ond ar draws addysg iechyd a gofal cymdeithasol.

21ain Chwefror 2008, Bron Eirian, Llandinam

Cynhaliwyd gweithdy yn ddiweddar yn Llandinam ar gyfer Pwyntiau Cyswllt yr Iaith Gymraeg o fewn GIG Cymru. Pwrpas y gweithdy oedd galw ar gyngor ac arbenigedd y Pwyntiau Cyswllt er mwyn mireinio strategaeth ymchwil LLAIS a chreu cyfleoedd i gydweithio ar brojectau sy’n hwyluso darpariaeth gyfrwng Cymraeg mewn gofal iechyd.

Yn ystod y gweithgareddau, gwahoddwyd y cyfranogwyr i nodi eu blaenoriaethau ymchwil o ran defnyddio iaith briodol ar gyfer ymarferiadau gofal iechyd gan ddefnyddio’r dechneg Delphi. Nodwyd pum blaenoriaeth ymchwil, sef:

  1. Agwedd gweithwyr gofal iechyd at y Gymraeg
  2. Y galw am y ddarpariaeth o wasanaethau Cymraeg
  3. Dysgu Cymraeg ymysg gweithwyr gofal iechy
  4. Effaith darparu gwasanaeth dwyieithog ar ofal iechyd
  5. Hwyluso’r defnydd o wasanaethau dwyieithog ymhlith defnyddwyr gofal iechyd

Cyflwynwyd adroddiad byr o’r canfyddiadau yng nghyfarfod Tasglu Cymru Gyfan ar gyfer Gwasanaethau Cymraeg ar 28ain Chwefror 2008.

Estyniad Grant

Mae’n bleser gan LLAIS gadarnhau ei bod wedi derbyn estyniad grant yn ddiweddar gan WORD er mwyn hyrwyddo ei rôl yn cefnogi’r isadeiledd tan 2010 ac ymestyn ei portffolio ymchwil.

Papur Cynhadledd

Cyflwynwyd papur gan LLAIS yn ddiweddar yng Nghynhadledd Ymchwil Nyrsio Rhyngwladol RCN yn Lerpwl. Roedd y papur yn dwyn y teitl: Enhancing rigour in qualitative research from a bilingual perspective.

Pennod Llyfr

Cyflwynwyd pennod gan LLAIS ar gyfer llyfr newydd a olygir gan Yr Athro Pranee Liamputtong, Prifysgol La Trobe, Victoria, Awstralia o’r enw: Doing Cross-Cultural Research: Ethical and Methodological Considerations. Mae’r pennod yn dwyn y teitl: The researcher as insider v the researcher as outsider: enhancing rigour through language and cultural sensitivity.

Ystyried Ddwyieithrwydd Wrth Ymchwilio Iechyd A Gofal Cymdeithasol

Nod papur briffio sydd i’w lansio gan Hywel Williams AS, ar faes Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir y Fflint 8ed Awst 2007 yw codi ymwybyddiaeth ymchwilwyr ym maes iechyd a gofal cymdeithasol ynglŷn â goblygiadau ymwybyddiaeth iaith; a thynnu sylw at y sylfaen o dystiolaeth sydd ar gael i gefnogi arfer orau wrth gynnal ymchwil mewn sefyllfa ddwyieithog.

Ymwybyddiaeth o Iaith wrth Lywodraethu Ymchwil Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw ail bapur briffio LLAIS; Gwasanaeth Cefnogi Isadeiledd ar gyfer y Cydweithrediad Ymchwil Glinigol newydd yng Nghymru (CRC Cymru). Nod y papur yw sicrhau bod ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cymryd natur ddwyieithog Cymru a’i siaradwyr i ystyriaeth yn llawn.

“Dangoswyd bod rhwystrau iaith mewn iechyd a gofal cymdeithasol yn niweidiol i ansawdd y gwasanaeth a ddarperir. Fodd bynnag, mae diffyg ymchwil drwyadl yn y maes hwn, yn arbennig o ran yr iaith Gymraeg. Ymhellach, mae angen parhaus am ymchwil a datblygiad er mwyn adeiladu’r sylfaen o dystiolaeth i gefnogi a lledaenu ymarfer ieithyddol addas,” esbonia Gwerfyl Roberts, Cyd-Gyfarwyddwr LLAIS sydd wedi’i leoli o fewn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Bangor.

“Mae’r papur sy’n cael ei lansio heddiw’n amlinellu pwysigrwydd bod yn ymwybodol o iaith wrth gynnal ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol fel cyfrwng i rymuso siaradwyr iaith leiafrifol, i wella trylwyredd casgliadau ymchwil ac i gyfyngu ar yr anghyfartaleddau wrth ddatblygu polisïau a darparu gwasanaethau,” esbonia Gwerfyl Roberts.
DIWEDD
*.7.07



Nodiadau ar gyfer Golygyddio
1. Fe’ch gwahoddir i’r Lansiad ar stondin Prifysgol Bangor ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol am 1.00 Dydd Mercher 8 Awst am 1.00.
2. Sefydlwyd LLAIS ym mis Mawrth 2006 fel Gwasanaeth Cefnogi Isadeiledd ar gyfer y Cydweithrediad Ymchwil Glinigol newydd yng Nghymru (CRC Cymru) er mwyn sicrhau bod ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn cymryd natur ddwyieithog Cymru a’i siaradwyr i ystyriaeth yn llawn. Yn ogystal a datblygu ei bortffolio ymchwil ei hun ar yr ymwybyddiaeth o iaith mewn iechyd a gofal cymdeithasol, mae LLAIS, a ariannir gan Lywodraeth Cynulliad Cymru, yn darparu cyngor a chefnogaeth i Rwydweithiau Ymchwil Thematig ar draws CRC Cymru drwy’r amcanion allweddol canlynol:


1. Codi ymwybyddiaeth o oblygiadau cael dewis iaith ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth mewn perthynas â gofynion clinigol, deddfwriaethol a statudol.
2. Cynghori’r rhwydweithiau i gymryd y Gymraeg a’r diwylliant Cymreig i ystyriaeth wrth gynllunio projectau ymchwil a datblygiad.
3. Cynnig arweiniad a chefnogaeth ynghylch gwella’r ymwybyddiaeth o’r Gymraeg a’r diwylliant Cymreig ar bob cam yn y broses ymchwil.

2. Mae’r ail bapur briffio wedi’i anelu at ymchwilwyr, darparwyr gwasanaeth; addysgwyr; comisiynwyr; llunwyr polisïau a defnyddwyr gwasanaethau ac mae’n ceisio codi ymwybyddiaeth ynghylch goblygiadau ymwybyddiaeth o iaith mewn ymchwil a thynnu sylw at y sylfaen o dystiolaeth sydd ar gael i gefnogi arfer orau wrth gynnal ymchwil mewn sefyllfa ddwyieithog.
Mae LLAIS wedi’i leoli o fewn y Ganolfan Ymchwil Gysylltiedig ag Iechyd, Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd, Prifysgol Bangor.


Manylion pellach: Gwerfyl Roberts, 01248 383165 e bost gwerfyl.w.roberts@bangor.ac.uk neu Elinor Elis-Williams 07940966879