Amdanom NWORTH-CTU

Mae NWORTH, Uned Treialon Clinigol Bangor wedi ei chofrestru'n llawn gan Gydweithrediad Ymchwil Clinigol y DU (UKCRC) (Rhif Cofrestru 23 Uned Treialon Clinigol UKCRC ers 2007) sy'n arbenigo mewn cynllunio, cynnal, dadansoddi ac adrodd ar dre8ialon clinigol Gwedd II a III. Mae'r Uned yn rhan o Goleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad Prifysgol Bangor.

Mae'r Uned Treialon Clinigol yn derbyn ei chyllid craidd gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (a adwaenir yn ffurfiol fel NISCHR), a'n nod yw gwella iechyd a lles pobl Cymru a’r tu hwnt trwy werthuso ymyriadau cymhleth yng nghyswllt iechyd (a gofal cymdeithasol) a hefyd hyrwyddo theori ac ymarfer hap-dreialon rheoledig a chynlluniau trwyadl eraill ar gyfer gwerthuso. Mae NWORTH hefyd yn darparu Gwasanaeth Cefnogi a Chynnal Ymchwil i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys fel rhan o Ganolfan Ymchwil Glinigol ac Isadeiledd Ymchwil a Grŵp Cefnogi Technegol Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru. 

Mae gennym dîm amlddisgyblaethol ac amlswyddogaethol gyda phrofiad ac arbenigedd mewn ymchwil i ofal iechyd ac astudiaethau clinigol, a hynny o greu'r syniad gwreiddiol hyd at gyhoeddi terfynol a rhannu'r ymchwil. Mae'r uned yn cydweithio gyda thrawstoriad eang o weithwyr proffesiynol gofal iechyd ac academyddion clinigol i gynnal a hyrwyddo hap-dreialon rheoledig ac ymchwil bellach o ansawdd uchel ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Datganiad cenhadaeth NWORTH yw:

Gwella iechyd a lles pobl Cymru a thu hwnt trwy werthuso ymyriadau mewn iechyd a gofal cymdeithasol a hyrwyddo theori ac ymarfer hap-dreialon rheoledig a chynlluniau trylwyr eraill i'w gwerthuso.

Nod yr Uned yn y pen draw yw gwneud gwahaniaeth, trwy ganlyniadau ein hymchwil, i iechyd pobl ledled Cymru a thu hwnt.

Yn ogystal, ceisiwn gyfrannu at ddatblygiadau methodolegol mewn cynllunio arbrofion, drwy wneud ymchwil i wella dilysrwydd ac effeithlonrwydd allanol cynllun treialon ac edrych sut y gellir gweithredu'n well y dystiolaeth a gynhyrchir o dreialon ymyriadau cymhleth.

Mae'r Uned wedi ymrwymo i edrych ar gyfleoedd ymchwil trwy gyfrwng y Gymraeg a, thrwy LLAIS, mae'n cefnogi ac yn cynnal cyfieithu fersiynau Cymraeg o fesurau canlyniadau iechyd a'u dilysu'n ieithyddol.

Mae Cynnwys Cleifion a'r Cyhoedd ac Ymgysylltu â hwy yn ganolog i bopeth y mae'r Uned yn ei wneud.

Prif fuddiolwyr ymchwil yr Uned, tu allan i'r byd academaidd, yw cleifion/defnyddwyr gwasanaeth, eu gofalwyr a'u teuluoedd.  Mae buddiolwyr eilaidd yn cynnwys: y GIG a'r gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru a gweddill y DU; cwmnïau masnachol; cyllidwyr elusennol a chyllidwyr eraill; datblygwyr canllawiau clinigol a llunwyr polisi; yr economi a phoblogaeth Cymru a thu hwnt.

Conglfeini ein dull o weithredu yw tryloywder, cynhwysedd, cysondeb a chydweithrediad â'r cleifion a'r cyhoedd, ynghyd â phartneriaid academaidd ac an-academaidd a buddiolwyr eraill, i gynnal ymchwil drwyadl gyda'r effeithiau mwyaf eang posibl.

E-bost: nworth@bangor.ac.uk

Ffôn: 01248 388095