Gwefan MI-CYM nawr ar-lein!

Mae tim LLAIS yn falch o adael i chi wybod bod gwefan MI-CYM nawr ar-lein (http://www.micym.org).

Ystyr MI-CYM yw Mesurau Iechyd Cymraeg. Mae'r wefan ryngweithiol newydd hon yn rhoi mynediad rhwydd i ymarferwyr iechyd ac ymchwilwyr ledled Cymru at y wybodaeth ddiweddaraf am fesurau iechyd sydd ar gael yn Gymraeg. Mae hefyd yn galluogi rhai ohonoch sy'n ymwneud â chyfieithu mesurau iechyd i rannu gwybodaeth am eich cynnydd fel y gallwn adeiladu canolfan wybodaeth gynhwysfawr a chanolog. Fel hyn, bydd gan ymchwilwyr ac ymarferwyr ledled Cymru fwy o wybodaeth am fersiynau Cymraeg mesurau iechyd sydd ar gael a felly byddant yn gallu darparu gwasanaethau Cymraeg gwell ar gyfer pobl Cymru.

Dyddiad cyhoeddi: 1 Hydref 2014