Ffurflen Gais Cydweithio

Mae gennym ddiddordeb bob amser mewn trafod astudiaethau a chydweithrediadau newydd a fydd yn ategu ac ehangu ein portffolio. Cynghorir darpar gydweithwyr sydd am ymgysylltu â NWORTH i gysylltu â ni cyn gynted â phosibl. Yn ddelfrydol, dylai hyn fod o leiaf ddau i dri mis cyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau. Bydd hyn yn ein galluogi i ddarparu digon o amser i asesu cais a barnu a oes gan y CTU y gallu i gydweithio. Yn anffodus, mae cynigion gyda therfynau amser byr iawn yn annhebygol o gael eu hystyried gan fod angen digon o amser arnom i adolygu a gwneud cyfraniad ystyrlon.

Trafodir pob cais am gydweithrediad NWORTH yn ein cyfarfod Grŵp Gweithredol Craidd (COG) pythefnosol. Er mwyn cynorthwyo gyda'r trafodaethau hyn, gofynnwn i ddarpar gydweithwyr lenwi ffurflen Cais Cydweithio. Mae'r COG yn ystyried pob astudiaeth yn ôl ei haeddiant ond rhoddir sylw arbennig i astudiaethau sy'n gwella ansawdd ein portffolio ac yn defnyddio methodolegau newydd.

Ffurflen Pwynt Cyswllt