Projectau ac Astudiaethau Cyfredol

BowelScope: Accuracy of Detection using ENdocuff Optimisation of Mucosal Abnormalities (B-ADENOMA)

ARC Medical Ltd.
Prif ymchwilydd: Yr Athro Colin Rees.

Gyda chymorth y cyff colonocopig Endocuff Vision®, nod yr astudiaeth hon yw gwella gwelediad y mwcosa colonig trwy wastatau plygion colonig a’u symud i ffwrdd o’r maes gwelediad blaen. Y rhagdybiaeth yw y bydd Endocuff Vision® yn gwella cyfraddau canfod adenoma trwy gwrthdynnu plygion yn well, cael golwg ehangach a sefydlogi cwmpas y tip yn well. Cynhelir yr astudiaeth glinigol ar hap hon gyda phobl a gyfeirir ac a drefnir i gael sgrinio sigmoidosgopi hyblyg trwy Raglen Bowel Scope Screening (BSS) y GIG yn Lloegr a bydd yn cymharu Endocuff Vision®-Assisted Flexible Sigmoidoscopy (EAFS) gyda Standard Flexible Sigmoidoscopy (SFS).

CALMED: The clinical effectiveness and cost effectiveness of clozapine for inpatients with borderline personality disorder: randomised controlled trial. 

NIHR HTA

CI: Professor Mike Crawford

Mae hwn yn dreial dwbl-ddall, wedi'i dreialu ar hap gyda grŵp cymharu yn cael plasebo, o clozapine ar gyfer oedolion ag anhwylder personoliaeth ffiniol sy'n gleifion preswyl. Fe'i cynhelir mewn nifer o ganolfannau ac mae iddo gynllun cyfochrog.   Nod yr astudiaeth yw ymchwilio i weld a yw ychwanegu clozapine at eu gofal arferol ymysg pobl sy'n derbyn triniaeth fel cleifion preswyl am anhwylder personoliaeth ffiniol yn strategaeth glinigol effeithiol a chost effeithiol ar gyfer gwella eu hiechyd meddwl.

Can H-Ts maintain the oral health of routine low-risk dental recall patients in “high-street” dental practices: astudiaeth beilot.

NIHR HS&DR.
Prif ymchwilydd: Yr Athro Paul Brocklehurst.

Nod yr astudiaeth hon yw fod yn sail wybodaeth i gynllunio prawf diffiniol i benderfynu a all therapyddion hylendid gynnal iechyd y geg mewn cleifion arferol ‘risg isel’ y GIG, sef y rhan fwyaf o’r boblogaeth sy’n mynd at y deintydd yn rheolaidd.

CARer-ADministration of as-needed sub-cutaneous medication for breakthrough symptoms in home-based dying patients: astudiaeth yn y DU (CARiAD)

NIHR HTA.
Prif ymchwilydd: Yr Athro Clare Wilkinson.

Cynnal astudiaeth ddichonoldeb a hap-dreial peilot allanol o feddyginiaeth dangroenol a weinyddir fel bo’r angen gan ofalwyr ar gyfer symptomau’n brigo i’r wyneb mewn cleifion sy’n marw yn y cartref, o gymharu â gofal arferol, gyda chydran ansoddol wedi’i chynnwys.

Dementia Carers Instrument Development: DECIDE.

MRC
Prif ymchwilydd: Dr Penny Wright.

Nod yr astudiaeth hon yw datblygu a gwneud gwerthusiad seicometrig o fesur ansawdd bywyd i’w ddefnyddio gyda gofalwyr pobl â dementia. Unwaith y datblygir y mesur hwn caiff ei alw’n ‘Carer QoL in Dementia’ (CQD). Bydd y CQD (y mesur) yn cael ei gynllunio i’w ddefnyddio gyda gofalwyr pobl â dementia sy’n byw yn y gymuned, gan gynnwys y rhai sydd mewn tai gwarchod neu dai gofal ychwanegol

Development and refinement of a Stroke friendly Oral health Promoting (STOP) toolkit to improve oral self-care after discharge from hospital stroke services.

NIHR RfPB.
Prif ymchwilydd: Yr Athro Craig Smith.

Nod yr ymchwil hwn yw datblygu ymyriad i oroeswyr strôc i wella iechyd y geg trwy gefnogi ymddygiad hunanofal o’r geg.

Evaluating the impact of a joint social care and NHS initiative.

H&CRW.
Prif ymchwilydd: Dr Carys Jones.

Mae hwn yn werthusiad realistig o broject y Ganolfan Iechyd yng Nghonwy a fydd yn datblygu theori esboniadol o “beth sy’n gweithio, i bwy, pam ac ym mha gyd-destunau” ar gyfer rhaglenni cysylltiedig sy’n ceisio integreiddio gwasanaethau cymdeithasol a gofal iechyd i alluogi cyfranogiad cymdeithasol. Hefyd bydd yn mesur adenillion cymdeithasol ar fuddsoddiad a gynhyrchir gan y rhaglen.

IDEAL – Byw’n dda gyda dementia.

ESRC.
Prif Ymchwilydd: Yr Athro Linda Clare.

Nod yr astudiaeth carfan arhydol hon yw nodweddu’r ffactorau cymdeithasol a seicolegol sy’n cefnogi neu’n cyfyngu ar allu cyfranogwyr â dementia a’u gofalwyr i fyw’n dda gydag unrhyw fath o ddementia. Bydd hyn yn arwain at gynllun gweithredu a fwriedir i gynorthwyo llunwyr polisïau, prynwyr a darparwyr i ddatblygu polisïau ac arferion sy’n seiliedig ar dystiolaeth sydd wedi’u hanelu at atal neu leihau anabledd diangen, gan gadw annibyniaeth, lleihau’r baich economaidd ar deuluoedd a chymdeithas, a chynnal lles ar hyd llwybr y clefyd dementia, er mwyn galluogi mwy o bobl â dementia i fyw’n dda, a galluogi pob unigolyn â dementia i fyw’n well.

Impact of a change to remuneration on the technical efficiency of dental practices: evaluation of the pilots of a new NHS Dental Contract in Northern Ireland.

NIHR HS&DR.
Prif ymchwilydd: Yr Athro Paul Brocklehurst.

Mae’r astudiaeth hon yn archwilio a yw ffordd newydd o dalu ymarferwyr deintyddol cyffredinol y GIG yng Ngogledd Iwerddon yn arwain at wahaniaethau yng ngweithred ac ansawdd y gofal deintyddol a ddarperir.

Mentalization for Offending Adult Males: Hap-dreial rheoledig (MOAM).

NIHR HTA.
Prif ymchwilydd: Yr Athro Peter Fonagy.

Mae hwn yn hap-dreial rheoledig a gynhelir mewn lleoliad GIG i ymchwilio a yw Cyfnod Prawf fel arfer (PAU) wedi’i ategu gyda therapi sy’n seiliedig ar feddyliaethu yn fwy effeithiol a chost-effeithiol na llwybr gofal safonol PAU yn unig, mewn sampl o droseddwyr dan oruchwyliaeth gymunedol sy’n bodloni meini prawf DSM-5 ar gyfer anhwylder personoliaeth gwrthgymdeithasol.

Promoting Activity, Independence and Stability in Early Dementia (PRAISED).

NHIR PGfAR.
Prif Ymchwilydd: Yr Athro Rowan Harwood.

Bydd y rhaglen hon o waith yn datblygu a gwerthuso ymyriad i hyrwyddo gweithgaredd, ac annibyniaeth, ac atal cwympo ymysg pobl gyda dementia cynnar a nam gwybyddol ysgafn. Bydd yn astudio ffyrdd o hyrwyddo derbyn a chadw at yr ymyriad a bydd yn cynnal treial dichonoldeb i brofi’r ymyriad yn ymarferol, a pharatoi ar gyfer hap-brawf aml-ganolfan gyda rheolydd diffiniol.

REMEDY: Management of sexual dysfunction associated with antipsychotic drugs

NIHR HTA

CI: Professor Mike Crawford

Mae hwn yn dreial cyfochrog, sengl-ddall ar hap a gynhelir mewn nifer o ganolfannau.   Nod yr astudiaeth hon yw ymchwilio i weld a yw newid eu cyffur gwrthseicotig i un sydd â llai o sgil effeithiau rhywiol yn strategaeth glinigol effeithiol a chost effeithiol i wella gweithrediad rhywiol ymysg pobl â sgitsoffrenia a seicoses cysylltiedig (anhwylder sgitsoffreniform, anhwylder sgitsoaffeithiol neu seicosis nas nodwyd yn benodol) sydd â diffyg rhywiol yn gysylltiedig â'u defnydd o feddyginiaethau gwrthseicotig.

Respiratory Health in Preterm Neonatal Outcomes (RHINO).

MRC.
Prif ymchwilydd: Yr Athro Sailesh Kotecha.

Mae’r astudiaeth hon yn nodi anhwylderau anadlu ymhlith plant 7–12 oed a aned yn gynamserol ac yn cynnal arbrawf i weld a oes unrhyw rwystr ar y llwybr anadlu yn ymateb i un dos o gyffur anadlu a ddefnyddir fel arfer ar gyfer asthma ac anhwylderau cysylltiedig. Bydd hefyd yn defnyddio technoleg sganio MRI i astudio strwythur a swyddogaeth yr ysgyfaint mewn plant a aned yn gynnar gyda rhwystr llwybr anadlu amlwg.

TOGETHER A randomised controlled trial evaluating the effectiveness and cost effectiveness of 'Strengthening Families, Strengthening Communities': a community led parenting programme

NIHR PHR

CI: Professor Richard Watt

Bydd y grŵp cymharu hwn gyda rhestr aros RCT, a gynhelir mewn nifer o ganolfannau, yn gwerthuso'r rhaglen Cryfhau Teuluoedd, Cryfhau Cymunedau (Strengthening Families, Strengthening Communities - SFSC).   Mae SFSC yn rhaglen magu plant ar gyfer teuluoedd â phlant 0-18 oed. Fe'i cynlluniwyd gan y Race Equality Foundation, sefydliad cymunedol elusennol sy'n canolbwyntio ar hyrwyddo cydraddoldeb hiliol, ac mae wedi cael ei chyflwyno ledled y Deyrnas Unedig ers dros 10 mlynedd. Nod yr astudiaeth hon yw asesu effeithiolrwydd a chost-effeithiolrwydd y rhaglen SFSC o ran gwella lles meddyliol rhieni a lles cymdeithasol ac emosiynol plant ar ôl dilyniant 6 mis.

TOPIC Improving the Oral Health of Older People in Care Homes: a Feasibility Study

NIHR PHR

CI: Dr Georgios Tsakos

Nod yr astudiaeth hon yw penderfynu ar ymarferoldeb treial rheoledig gyda chlystyrau ar hap mewn nifer o ganolfannau yn ymwneud ag ymyriad cymhleth wedi'i seilio ar ganllawiau diweddar NICE ar gyfer iechyd geneuol pobl hŷn (rhai chwe deg pump oed neu hŷn) mewn cartrefi gofal.

Water Assised Flexible Sigmoidoscopy in National Bowel Scope Screening (WASh)

NIHR RfPB.
Prif ymchwilydd: Yr Athro Matt Rutter.

Er mwyn lleihau’r risg o ganser y coluddyn, mae Rhaglen Sgrinio Canser y Coluddyn y GIG yn gwahodd pobl 55 oed i gael sigmoidosgopi. Bydd yr ymchwil yn asesu a yw defnyddio dŵr i leihau chwyddiant y coluddyn, yn hytrach na nwy, yn gwneud y weithdrefn yn fwy cyfforddus. Os profir yn effeithiol mewn ymarfer yn y DU, mae’r tîm ymchwil yn gobeithio trwy leihau’r boen y bydd pobl yn cael gwell profiad, a allai gynyddu nifer y cyhoedd sy’n cymryd rhan yn y rhaglen sgrinio. Ar hyn o bryd dim ond 43.7% o bobl sy’n cymryd rhan – gallai achosion o ganser gael eu hatal os byddai mwy o bobl yn cymryd rhan.