Prifysgol Bangor yn gwneud gwahaniaeth mewn gofal iechyd yn yr iaith Gymraeg

Yn cael eu llongyfarch ar eu Gwobr gan un o’r beirniaid, Dr Dai Samuel, mae’r hyrwyddwyr yr iaith Gymraeg; myfyrwyr nyrsio ym Mhrifysgol Bangor: Elin Roberts, Elin Bryfdir Jones, Hannah Ward, Bethan Edwards a Mared Parry.Yn cael eu llongyfarch ar eu Gwobr gan un o’r beirniaid, Dr Dai Samuel, mae’r hyrwyddwyr yr iaith Gymraeg; myfyrwyr nyrsio ym Mhrifysgol Bangor: Elin Roberts, Elin Bryfdir Jones, Hannah Ward, Bethan Edwards a Mared Parry.Mae gwaith arloesol i ymestyn a gwella'r defnydd o'r iaith Gymraeg ym maes iechyd a gofal cymdeithasol wedi cael ei gydnabod gyda Phrifysgol Bangor yn ennill gwobrau Gwireddu'r Geiriau mewn dau gategori.

Cyflwynwyd y gwobrau yng Nghynhadledd a Gwobrau'r Iaith Gymraeg mewn Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Gofal Cymdeithasol. Mae'r Gwobrau yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd  yr iaith Gymraeg yn y sectorau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn arbennig wrth ddelio â chleifion, eu teuluoedd a'r cyhoedd.

Datblygwyd a defnyddiwyd cynllun arloesol i annog defnyddio'r Gymraeg mewn gwasanaethau gofal iechyd yn Ysgol Gwyddorau Gofal Iechyd Prifysgol Bangor. Cafodd chwe myfyriwr hyfforddiant a chefnogaeth arbennig gan fod y cyntaf i fod yn hyrwyddwyr yr iaith Gymraeg. Bydd eraill yn ymuno â'r chwech sydd wedi cael cefnogaeth a hyfforddiant i annog eu cyfoedion i ddefnyddio'r Gymraeg a nodi ac annog datblygiadau newydd yn y Gymraeg ar gyfer cleifion a defnyddwyr gwasanaeth trwy gydol eu gyrfaoedd.

Meddai aelod o'r tîm project, Sharon Pierce: "Dylid annog hyrwyddwyr yr iaith Gymraeg ym mhob maes - ac yn arbennig mewn gofal iechyd. Mae’n arbennig o bwysig ein bod yn annog nyrsys ar ddechrau eu gyrfa ac yn eu cefnogi i gael yr hunan hyder i gwestiynu ac annog pobl eraill."

Enillodd y project wobr yn y categori addysg a hyfforddiant yn y gweithle sy'n cynyddu gallu a hyder i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg. Cyllidwyd y project gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Enillwyd yr ail wobr am waith gyda grwpiau blaenoriaeth, sef defnyddwyr gwasanaeth iechyd meddwl, yn cyfieithu ac addasu pecyn cymorth asesu gwybyddol ar gyfer siaradwyr Cymraeg. Mae'r pecyn cymorth yn golygu y gall siaradwyr Cymraeg sydd â dementia gael eu hasesu yn awr drwy gyfrwng y Gymraeg i nodi eu hanghenion a chynllunio ar gyfer y gofal gorau.

Noddwyd y gwaith hwn gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Mae'r project yn rhan o raglen ehangach o waith a wnaed yn NWORTH (Cymdeithas Hap-dreialon Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gogledd Cymru) gan LLAIS, y Grŵp Cefnogi Isadeiledd Ymwybyddiaeth o Iaith, sy'n hybu cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg mewn ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol ar draws Cymru i gyflawni anghenion siaradwyr dwyieithog. Meddai Gwerfyl Roberts, Cyfarwyddwr LLAIS:

"Saesneg fu'r brif iaith yn y gwasanaeth iechyd, ond mae symud tuag at ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn cydnabod pwysigrwydd darparu gofal a gwybodaeth yn iaith gyntaf yr unigolyn. I sicrhau bod hynny'n digwydd, mae'n rhaid i ni sicrhau bod gan staff y pecynnau cymorth a’r hyfforddiant i allu darparu’r gwasanaethau hynny. Yn ogystal â darparu cymorth ymarferol yng Nghymru, mae LLAIS hefyd yn gwneud cyfraniad pwysig i'r dystiolaeth sy'n sail wybodaeth i'r ddarpariaeth ddwyieithog mewn iechyd a gofal cymdeithasol."

Meddai'r Athro Jo Rycroft-Malone, Pennaeth Ysgol y Gwyddorau Gofal Iechyd: “Hoffwn longyfarch y timau hyn am gynnal ymchwil ac addysgu sy'n cael effaith wirioneddol a chadarnhaol ar ddarparu gwasanaethau iechyd yng Nghymru ac ar brofiadau'r defnyddwyr gwasanaeth a gofal yng Nghymru."

Dyddiad cyhoeddi: 8 Gorffennaf 2015