Uned Dreialon Clinigol NWORTH yn croesawu cyhoeddiad y Llywodraeth ei bod yn buddsoddi mwy o Arian mewn Ymchwil ar Ddementia

Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar gan David Cameron, mae Uned Treialon Clinigol NWORTH  Prifysgol Bangor yn croesawu'r newyddion bod cyllid ar gyfer ymchwil i ddementia ar fin dyblu i £ 66m erbyn 2015.

Am ei bod yn gartref i ganolfan ag arbenigedd a gydnabyddir yn genedlaethol mewn datblygu a darparu astudiaethau sy’n profi ymyriadau i wella ansawdd bywyd pobl â dementia a'u gofalwyr, mae Prifysgol Bangor mewn sefyllfa dda i gyflawni ymchwil sy'n anelu at fynd i'r afael â'r 'argyfwng cenedlaethol'.

Wrth sôn am y cyhoeddiad, dywedodd Rhiannon Whitaker, Cyfarwyddwr Cysylltiol (Gwyddonol) NWORTH: "Mae cynnydd yn y cyllid ar gyfer ymchwil dementia yn newyddion ardderchog i’r rhai sy'n gweithio yn y maes ac, yn bwysicach,  i bobl â dementia a'u gofalwyr, y rhai hynny sy’n derbyn cyflog a’r gofalwyr gwirfoddol. "

Mae dementia yn thema ymchwil o bwys i’r uned, sy’n cael ei harwain gan yr Athro Bob Woods, seicolegydd clinigol sydd  wedi cael clod rhyngwladol  am ei ymchwil ar ofal dementia. Dywedodd: "Mae'r cynnydd yn y cyllid ymchwil i'w groesawu'n fawr, ond mae’n dal yn llawer llai na’r cyllid a roddir i ymchwil canser, yn enwedig wrth gadw mewn cof gostau cymdeithasol dementia."

Mae NWORTH  yn bartneriaid ymchwil allweddol a chyd-ymchwilwyr ar nifer o grantiau ymchwil a rhaglenni sy’n ymwneud â dementia. Mae cydweithio agos rhyngddynt ag elusennau yn y DU megis Age Concern, Cymdeithas Alzheimer a sefydliadau academaidd, gan gynnwys UCL, y Sefydliad Seiciatreg, Kings College Llundain a Phrifysgol Hull ynghyd â Byrddau Iechyd ar draws y DU.

Yn ystod y 5 mlynedd diwethaf, mae  NWORTH wedi datblygu a chydweithio ar bortffolio cryf o hap-dreialon rheoledig pragmatig pwysig a grantiau rhaglen.  Mae'r ymchwil hon yn mynd i'r afael â chwestiynau fel:
• y ffordd orau o reoli ymddygiad heriol mewn dementia yn y cartref ac mewn cartrefi gofal
• sut i wella bywyd â dementia trwy ddarparu cymorth yn y cartref,
• sut i ymyrryd i wella iechyd meddwl a lleihau’r defnydd o feddyginiaeth gwrth-seicotig ymysg pobl â dementia mewn cartrefi gofal.

Maen nhw hefyd yn mynd i'r afael â chwestiynau am driniaethau heb gyffuriau, fel a yw Therapi Ysgogi Gwybyddol unigol neu gwaith therapi atgofion mewn  grwpiau’n gweithio? Mewn cydweithrediad â’r Athro Linda Clare, o’r Ysgol Seicoleg, maen nhw wedi ymchwilio hefyd i faterion mwy damcaniaethol megis a yw dwyieithrwydd yn ffactor amddiffynnol wrth ohirio datblygiad amhariad gwybyddol sy'n gysylltiedig ag oedran a dealltwriaeth o ymwybyddiaeth ymysg pobl sydd â dementia datblygedig iawn.




Dyddiad cyhoeddi: 27 Mawrth 2012