Yr Athro Ian T. Russell 1944-2022

Llun o Yr Athro Ian RussellBu farw ein mentor, cydweithiwr a chyfaill yr Athro Ian Russell yn 78 oed. Roedd yn un o ymchwilwyr mwyaf blaenllaw ei genhedlaeth a hyfforddodd nifer o brif ymchwilwyr iechyd byd-eang ein cyfnod. Dros yrfa ryfeddol a estynnodd ymron i 60 mlynedd, gwellodd ei ymchwil arloesol fywydau cleifion trwy bennu effeithiolrwydd a chostau triniaethau a chynorthwyo i gynnal iechyd, iechyd y cyhoedd, gwasanaethau cymunedol a chymdeithasol yn fwy effeithlon. Mae ei gynlluniau treialu arloesol wedi dylanwadu ar lunio a chynnal treialon ar draws y byd. Roedd yn ystadegydd o ran hyfforddiant a ystyriai ei hun bob amser yn ymchwilydd i wasanaethau iechyd cyffredinol. Esblygodd ei waith i ddefnyddio dulliau cymhleth i ateb cwestiynau o bwys ynghylch darpariaeth a pholisi gofal iechyd.  

Yn yr 1980au a’r 90au bu Ian yn arloeswr y cynllun treialon pragmatig, a oedd yn ei farn ef yn fwy priodol i ateb cwestiynau clinigol brys na’r treialon safonol dwbl-ddall wedi’u rheoli gan blasebo. Byddai ei dreialon fel mater o drefn yn ymgorffori mesurau o ganlyniadau a adroddwyd gan gleifion (PROMS), gwerthusiadau economaidd a mesurau proses. Er bod yr elfennau hyn yn gyffredin bellach, roedd 20 mlynedd o flaen ei amser. Roedd yn hynod greadigol wrth gynllunio treialon, ac mae enghreifftiau o hynny'n cynnwys: defnyddio Sgwariau Rhufeinig a Groeg-Rufeinig; un o'r treialon cyntaf yn gwerthuso llawdriniaeth twll clo yn erbyn llawdriniaeth gonfensiynol; un o'r treialon cyntaf o ddewisiadau cleifion yn gwerthuso dulliau llawfeddygol a meddygol o derfynu beichiogrwydd. Ystyrir hyd heddiw bod ei dreial 'Astudiaeth Safonau a Pherfformiad mewn Meddygaeth Teulu yng Ngogledd Lloegr', a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Newcastle yn yr 1980au gan ddyblygu Sgwariau Groeg-Rufeinig 5x5 ac a oedd yn cynnwys canlyniadau a adroddwyd gan gleifion, yn un o'r treialon mwyaf uchelgeisiol ac arloesol o wella ansawdd. Cefnogai ei ymchwil hefyd ddatblygiadau methodolegol, er enghraifft, datblygodd a gwerthusodd PROMS yn yr 1990au cynnar a bu’n gynnar yn mabwysiadu cynlluniau treialon lletem-risiog a’u defnyddio i asesu gwelliant oedd wedi’i gyflwyno’n ddiweddar ar gyfer cleifion gofal critigol yn y GIG ar droad y ganrif hon. Roedd yn un o gefnogwyr cynnar a brwdfrydig rhwydwaith Cochrane (a lansiwyd gan yr Athro Syr Iain Chalmers ym 1993) a gofal ar sail tystiolaeth. Roedd Ian yn arloeswr o ran cynnal adolygiadau systematig i ateb cwestiynau polisi a throsolygon o adolygiadau systematig, a deallodd bwysigrwydd ymchwil ansoddol a chynnwys cleifion a'r cyhoedd ymhell cyn i ddulliau o'r fath gael eu defnyddio gan eraill. 
 
Ganwyd Ian yng Nghaerwysg yn 1944 yn fab i Joseph Henry Russell a Muriel Florence Russell (née Durrant). Astudiodd fathemateg yng Ngholeg Sant Ioan, Caergrawnt (1963-1966), ac aeth ymlaen i ennill MSc mewn ystadegau mathemategol ym Mhrifysgol Birmingham (1966-1967). Daeth yn Gymrawd  y Gymdeithas Ystadegol Frenhinol ym 1968. Dechreuodd PhD mewn Ymchwil Gwasanaethau Iechyd pan oedd yn Gynorthwyydd Ymchwil ym Mhrifysgol Essex (1968-1970). Dyfarnwyd ei PhD yn 1977. Cyfarfu Ian â chyd ystadegydd, Daphne trwy’r Gymdeithas Fethodistaidd ym Mhrifysgol Caergrawnt yn 1965 a gwnaethant briodi ym 1969. Ganed eu meibion Mark (1974) a Luke (1978) ac roedd Ian yn hynod falch o’i deulu. Cydweithiodd Daphne ag Ian am y rhan fwyaf o’i yrfa a bu’n ystadegydd ar sawl project ymchwil ac ar ei ddwy uned treialon derfynol.

Yn ystod ei yrfa creodd Ian nifer o adrannau newydd ac arweiniodd sawl menter a oedd yn rhyngddisgyblaethol ac o flaen eu hamser. Ar ôl gadael Prifysgol Newcastle ym 1987, bu’n Gyfarwyddwr Sefydlol Uned Ymchwil Gwasanaethau Iechyd Prifysgol Aberdeen (tan 1993), yn Gyfarwyddwr Sefydlol Ymchwil a Datblygu GIG Cymru (1993-1994), Cadeirydd y Bwrdd Comisiynu ar gyfer Asesu Technoleg Iechyd, Pwyllgor Gweithredu’r GIG (1993-1996), Pennaeth Sefydlol Adran Gwyddorau Iechyd Prifysgol Efrog (1994-2001) lle bu’n gyfrifol am sefydlu uned treialon clinigol ac Ysgol Feddygol Hull, Athro Sefydlol Iechyd y Cyhoedd, Prifysgol Cymru Bangor 2002-2008) a sefydlu uned treialon clinigol yno (Sefydliad Hap-Dreialon Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gogledd Cymru), Athro Sefydlol Treialon Clinigol, Prifysgol Abertawe (2008-2015) lle bu’n arwain Uned Treialon Abertawe, Cyfarwyddwr Ymchwil, Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe (2010- 2013), ac Uwch Arweinydd Ymchwil, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (2013-2016). 

Yn dystiolaeth o ystod ac effaith enfawr ymchwil Ian, cyhoeddodd dros 340 o gyhoeddiadau a adolygwyd gan gymheiriaid neu drwy wahoddiad a oedd yn cwmpasu wyth maes – iechyd y cyhoedd, gofal eilaidd, gofal sylfaenol, llywodraethu clinigol, cydbwysedd gofal rhwng ysbyty a chymuned, gofal cymdeithasol, hybu iechyd ac addysg feddygol. Roedd ei ymchwil yn rhychwantu wyth disgyblaeth neu dechneg – hap-dreialon, ymchwil gofal iechyd pellach amlddisgyblaethol, adolygiadau systematig, ymchwil ar arolygon, bio-ystadegau, economeg, epidemioleg ac ymchwil ansoddol.  

Bu angerdd, brwdfrydedd ac egni Ian yn ysbrydoliaeth i’r clinigwyr y bu'n cydweithio'n agos â hwy ac i genhedlaeth o ymchwilwyr. Er bod Ian yn hynod o brysur, byddai’n rhannu’i amser yn gyson ag is-ymchwilwyr contract a thaniodd ddiddordeb nifer o fyfyrwyr mewn methodoleg treialu ac mewn cymhwyso dulliau ymchwil gwasanaethau iechyd i gwestiynau polisi. Goruchwyliodd fyfyrwyr PhD o wahanol wledydd, ac aeth llawer ohonynt ymlaen i swyddi pwysig mewn arweinyddiaeth academaidd a pholisi iechyd yn y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang (e.e. yng Nghanada, yr Aifft, Iran, UDA, Norwy). Byddai Ian a Daphne yn croesawu cydweithwyr a myfyrwyr i'w cartref gyda chroeso cynnes a digonedd o fwyd. Mae ei gyn-fyfyrwyr a chydweithwyr yn cofio treulio amser gydag ef yn cael trafodaethau am ymchwil a allai ymestyn gyda’r hwyr tan yr oriau mân ac ar ddydd Sadwrn.     
Er bod Ian ymhell o flaen ei amser o ran nifer o agweddau ar ymchwil, ni ddechreuodd olygu dogfennau'n electronig tan y mileniwm newydd ac yn dilyn hynny byddai'n aml yn troi’n ôl at ddefnyddio papur a beiro. Byddai'n gweithio ar gopïau caled (yn aml yn dileu testun gwerthfawr yr awdur gyda galwyni o tipex, ac os teimlai ei fod yn wael iawn trwy styffylu papur drosto ac ailysgrifennu adran yn llwyr. Defnyddiai dri lliw gwahanol ar gyfer golygiadau: glas (cynigion golygu a oedd yn ddieithriad yn gwella ar y testun), coch (yn anaml, ac yng nghyswllt materion sylfaenol yr oedd angen ymdrin â hwy cyn bod y llawysgrif yn barod i fynd) a gwyrdd (ar gyfer syniadau diddorol i ddychwelyd atynt yn ddiweddarach h.y. ar ôl cyflwyno'r llawysgrif). Yr unig broblem oedd y byddai'n aml yn gwneud ei waith golygu ar deithiau trên ac yn ceisio dwyn perswâd ar deithwyr eraill i beidio ag eistedd wrth ei ymyl trwy orchuddio'r bwrdd â phapurau a blychau yn llawn beiros. Yna byddai Ian yn ffacsio'r papur wedi'i olygu yn ôl at yr awdur ac ni fyddai hwnnw neu honno yn gallu gwneud synnwyr o'i gòd lliw am fod y ffacs mewn du a gwyn! Byddai hefyd yn cynnig copi rhad ac am ddim o Complete Plain Words Ernest Gowers (argraffiad 1986) i’w aelodau staff i'w hannog i ysgrifennu'n syml ac yn ddarllenadwy.
Anrhydeddwyd Ian yn Lloegr a'r Alban: FRCGP Anrhydeddus Coleg Brenhinol y Meddygon Teulu (1993), FRCP, Caeredin, Coleg Brenhinol y Meddygon Caeredin (1997), FFPH, Coleg Brenhinol y Meddygon (2003), DSc Anrhydeddus Prifysgol Aberdeen (2008), FRCP Anrhydeddus Llundain, Coleg Brenhinol y Meddygon Llundain (2013). 

Roedd yn feiciwr brwd ac yn ddeiliad tocyn tymor Newcastle United gyda’i feibion, ac roedd yn ddyn a gofleidiai fywyd ac ymwreiddio yn y cymunedau y trigai ac y gweithiai ynddynt, gan gynnwys yn eglwysi lleol ei gymuned. Roedd yn fynyddwr angerddol (yn arbennig felly yn yr Alban). Roedd yn falch iawn o gilt Prifysgol Aberdeen, ac fe’i gwisgai pryd bynnag y byddai gofyn am wisg ffurfiol. Pan symudodd i Gymru dysgodd Gymraeg a bu’n bregethwr lleyg. Yn dilyn ei ymddeoliad, rhannodd Ian ei amser rhwng Cymru a’r Alban i ddechrau, cyn dychwelyd yn y pendraw gyda Daphne i’r Alban. Roedd ei ddau fab a’u teuluoedd wedi ymsefydlu yno a rhoddodd gyfle iddo gerdded mynyddoedd yr Alban oedd mor annwyl iddo. Er iddo ymddeol yn 'swyddogol' ar adeg ei farwolaeth, roedd Ian yn dal i gyfrannu at ymchwil gwasanaethau iechyd a bydd yn golled aruthrol i'r proffesiwn. Roedd y newyddion am ei farwolaeth yn annisgwyl, a bu farw’n rhy gynnar i bawb oedd yn ei garu a'i fawrygu.
 
Mae Daphne, Mark, Luke ac wyth o wyrion yn ei oroesi.

Yr Athro Ian T. Russell, ystadegydd ac ymchwilydd gwasanaethau iechyd, ganed 30 Awst 1944; bu farw 18 Medi 2022

Yr Athro Jane Noyes
Yr Athro Arash Rasidian 
Yr Athro Syr Iain Chalmers 
Yr Athro Jeremy Grimshaw
Yr Athro David Torgerson
Yr Athro Cam Donaldson 
Yr Athro Marion Campbell
Dr Zoe Hoare
Yr Athro Emeritws Cathryn Glazener
Yr Athro Emeritws Ceri Phillips
Yr Athro Emeritws Elizabeth Russell 
Yr Athro Rhiannon Tudor Edwards

Bu farw ein mentor, cydweithiwr a chyfaill yr Athro Ian Russell yn 78 oed. Roedd yn un o ymchwilwyr mwyaf blaenllaw ei genhedlaeth a hyfforddodd nifer o brif ymchwilwyr iechyd byd-eang ein cyfnod. Dros yrfa ryfeddol a estynnodd ymron i 60 mlynedd, gwellodd ei ymchwil arloesol fywydau cleifion trwy bennu effeithiolrwydd a chostau triniaethau a chynorthwyo i gynnal iechyd, iechyd y cyhoedd, gwasanaethau cymunedol a chymdeithasol yn fwy effeithlon. Mae ei gynlluniau treialu arloesol wedi dylanwadu ar lunio a chynnal treialon ar draws y byd. Roedd yn ystadegydd o ran hyfforddiant a ystyriai ei hun bob amser yn ymchwilydd i wasanaethau iechyd cyffredinol. Esblygodd ei waith i ddefnyddio dulliau cymhleth i ateb cwestiynau o bwys ynghylch darpariaeth a pholisi gofal iechyd.  

Dyddiad cyhoeddi: 13 Hydref 2022