Pobl sydd â dementia yn elwa o therapi cysylltiedig â nod

Mae naw deg o bobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr o bob cwr o ogledd Cymru, wedi cyfrannu at ganfyddiadau ymchwil newydd sydd wedi dangos bod therapi adferiad gwybyddol personol yn gallu helpu pobl â dementia cynnar i wella'n sylweddol eu gallu i gymryd rhan mewn gweithgareddau a thasgau bob dydd pwysig.

Roedd y treial ar raddfa fawr, a gyflwynwyd yng Nghynhadledd Ryngwladol Cymdeithas Alzheimer (AAIC) 2017 ddydd Mawrth, 18 Gorffennaf, wedi canfod bod adferiad gwybyddol yn arwain at bobl yn gweld cynnydd boddhaol mewn meysydd fel y gallant barhau i weithredu a chadw eu hannibyniaeth.

Roedd y treial adferiad gwybyddol yn gysylltiedig â nod yng nghyfnod cynnar clefyd Alzheimer a mathau eraill o ddementia: Hap-brawf gyda rheolydd sengl-ddall aml-ganolfan (GREAT) yn cynnwys 475 o bobl mewn wyth safle yng Nghymru a Lloegr. Cafodd hanner ohonynt ddeg sesiwn adferiad gwybyddol dros dri mis, gyda'r hanner arall ddim yn derbyn y sesiynau hynny. Yna bu'r grŵp a dderbyniodd therapi yn cymryd rhan mewn pedair sesiwn ychwanegol dros chwe mis. Ariannwyd yr ymchwil gan Raglen Asesu Technoleg Iechyd y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil Iechyd.

Gwelodd yr ymchwilwyr fod y rhai a gymerodd ran yn y therapi yn dangos gwelliant sylweddol yn y meysydd a nodwyd ganddynt, ar ôl y sesiynau deg wythnos a'r sesiynau ychwanegol hefyd. Cytunodd y gofalwyr teuluol bod eu perfformiad wedi gwella. Roedd y cyfranogwyr a'r gofalwyr yn hapusach gyda gallu'r cyfranogwyr yn y meysydd a nodwyd.

Mae adsefydlu gwybyddol yn cynnwys therapydd yn gweithio gyda'r sawl sydd â dementia a gofalwr teuluol yn nodi problemau lle y byddent yn hoffi gweld gwelliannau. Maent yn gweithio gyda’i gilydd i osod tair nod, ac mae'r therapydd yn helpu i ddatblygu strategaethau i gyflawni'r nodau hyn.

Roedd y nodau a ddewiswyd gan y cyfranogwyr yn amrywiol, gan fod dementia yn effeithio ar bobl mewn nifer o wahanol ffyrdd. Roedd rhai cyfranogwyr eisiau canfod ffyrdd o aros yn annibynnol, er enghraifft trwy ddysgu neu ail-ddysgu sut i ddefnyddio offer yn y cartref neu ffonau symudol. Roedd rhai yn awyddus i reoli tasgau bob dydd yn well; er enghraifft ymddangosodd gyfranogwr o ogledd Cymru ar raglen Horizon y BBC ym mis Mai 2016 yn gweithio gyda therapydd i ddatblygu strategaethau i'w rwystro rhag llosgi bwyd wrth goginio prydau. Roedd rhai eraill eisiau parhau i gymdeithasu, ac yn canolbwyntio ar allu  cofio manylion fel enwau perthnasau neu gymdogion, neu wella eu gallu i gymryd rhan mewn sgwrs. Roedd aros yn ddiogel yn bwysig weithiau, felly roedd y strategaethau'n canolbwyntio ar bethau fel cofio cloi drws eu cartrefi neu dynnu arian allan yn ddiogel o'r twll yn y wal.

Meddai'r Athro Linda Clare, o Brifysgol Exeter a Phrifysgol Bangor yn flaenorol, a arweiniodd yr ymchwil: "Rydym yn gwybod bellach bod adsefydlu gwybyddol yn cefnogi pobl yn effeithiol i gyflawni'r nodau bob dydd sy'n bwysig iddynt. Y cam nesaf yw mesur y buddiannau, er enghraifft a yw'r dull hwn yn gohirio'r angen i bobl fynd i mewn i gartrefi gofal ai peidio drwy eu cefnogi i fyw'n annibynnol am gyfnod hirach. Gall hyn gael manteision ariannol pwysig i ofal cymdeithasol. Rhaid i ni hefyd asesu a all y therapi gael ei integreiddio i'r ffordd y mae ymarferwyr yn gweithio fel arfer, fel y gall rhagor o bobl gael y therapi a'u cefnogi i fyw bywydau gwell gyda dementia." 

Bu Prifysgol Bangor yn recriwtio pobl yng ngogledd Cymru i gymryd rhan yn yr ymchwil, ac roedd tîm Uned Treialon Clinigol NWORTH y Brifysgol yn gysylltiedig â chynllunio methodoleg yr astudiaeth; yn cynllunio a gweithredu'r dadansoddiad ystadegol, datblygu, profi,  defnyddio a chynnal systemau casglu data electronig yr astudiaeth a darparu mewnbwn sicrhau ansawdd ar gyfer pob agwedd ar y treial aml-ganolfan mawr.

Dywedodd Dr Andrew Brand, Ystadegydd Treial yr astudiaeth, "Roedd yn wych cael gweithio gyda thîm treialon mor brofiadol ac i gymryd rhan mewn ymchwil sy'n mynd i'r afael â dementia, sy'n gyflwr mor gyffredin a gwanychol. Rydym yn llongyfarch y tîm ar eu llwyddiant pwysig."

Dywedodd yr Athro Bob Woods o Ganolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia y brifysgol, a arweiniodd yr ymchwil o Brifysgol Bangor: "Gan i mi fod yn rhan o ddatblygu'r dull hwn dros nifer o flynyddoedd, mae'n gyffrous i weld y dystiolaeth am y manteision yn dod yn gliriach. Rydym yn ddiolchgar i'r holl gyfranogwyr a'u teuluoedd am fod mor barod i roi eu hamser, ac i'n cydweithwyr ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a wnaeth hi'n bosibl i ogledd Cymru gyrraedd y brig fel safle recriwtio. Rydym yn bwriadu parhau i weithio'n agos gyda nhw i sicrhau y bydd y dull hwn ar gael yn eang yn y blynyddoedd i ddod."

Meddai Dr Ola Kudlicka, rheolwr y treial: "Rydym yn gwybod bod llawer iawn y gellir ei wneud i gefnogi pobl i fyw yn dda gyda dementia. Mae ein gwaith ymchwil yn ymwneud â chanfod yr hyn sydd bwysicaf i unigolion a gweithio gyda nhw i ddod o hyd i strategaethau i reoli tasgau pwysig a chynnal eu diddordebau. Yn groes i'r hyn a gredir yn aml, mae ein treial yn dangos y gall pobl â dementia cyfnod cynnar, ddysgu a gwella eu sgiliau os ydynt yn cael y math cywir o gefnogaeth. Ein bwriad yw eu cefnogi yn eu hawl i fyw bywyd llawn a hapus ac i fod mor annibynnol ag y bo modd."

Ariannwyd astudiaeth beilot gychwynnol gan y Gymdeithas Alzheimer ar gyfer y gwaith hwn i sicrhau bod y dulliau'n dderbyniol i bobl sydd wedi eu heffeithio gan ddementia ac mae bellach yn ariannu astudiaeth gweithredu fel y gall yr ymchwilwyr weithio gyda'r GIG a darparwyr gofal cymdeithasol i addasu'r therapi i'w ddefnyddio mewn bywyd go iawn.

Meddai Pennaeth Ymchwil yr elusen, Colin Capper: "Mae dysgu i fyw'n dda gyda dementia yn hollbwysig i'r bobl sydd wedi eu heffeithio a'u gofalwyr. Mae natur bersonol y therapi hwn yn dangos bod pawb sydd â dementia yn wahanol a gall dulliau gofal a gosod nodau unigol sydd wedi eu teilwra'n arbennig ddangos manteision clir. Rydym wrth ein bodd gyda chanlyniadau'r astudiaeth hon ac yn edrych ymlaen at helpu i ddatblygu'r gwaith pwysig hwn a'i ddwyn yn nes at y bobl sydd ei angen."

Roedd y treial yn gydweithrediad a oedd yn cynnwys Prifysgolion Bradford, Caerdydd a Manceinion; Kent and Medway NHS and Social Care Partnership Trust; London School of Economics and Political Science; Northumberland, Tyne and Wear NHS Foundation Trust; the Research Institute for the Care of the Elderly (RICE) yng Nghaerfaddon; Kings College London; a Dementia Pal Ltd. 

Dyddiad cyhoeddi: 18 Gorffennaf 2017