Newyddion: Medi 2012
Cydnabyddiaeth genedlaethol i NWORTH, Uned Dreialon Glinigol Bangor
Mae Prifysgol Bangor wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol am gynnal treialon astudiaethau clinigol o’r ansawdd uchaf. Mae Cymdeithas Hap-dreialon Iechyd (a Gofal Cymdeithasol) Gogledd Cymru (NWORTH) , sef yr uned dreialon yn y Sefydliad Ymchwil Gofal Meddygol a Chymdeithasol (IMSCaR) yng Ngholeg y Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad (CoHaBS) wedi ennill cydnabyddiaeth genedlaethol gan Gydweithrediad Ymchwil Clinigol y DU (UKCRC)fel uned dreialon glinigol wedi ei chofrestru’n llawn am ragoriaeth ymchwil wrth gynnal treialon clinigol aml ganolfan ac astudiaethau eraill sydd wedi eu cynllunio'n dda.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Medi 2012