Newyddion: Medi 2015
Buddsoddiad gwerth dros 3 miliwn mewn unedau ymchwil iechyd ym Mhrifysgol Bangor
Caiff gwerth dros £3 miliwn ei fuddsoddi mewn ymchwil i ofal iechyd integredig ym Mhrifysgol Bangor dros y tair blynedd nesaf. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhodd o gyllid gwerth £2.3 miliwn i ariannu dau grant i'r brifysgol, a bydd y brifysgol ei hun yn buddsoddi arian cyfatebol yn un ohonynt.
Dyddiad cyhoeddi: 1 Medi 2015